Dewiswch eich iaith

Mae'r dudalen hon yn cynnwys polisïau y Panel

Am bolisïau a chanllawiau sy'n ymwneud â sefydliadau allanol ewch i'n tudalen Gwybodaeth ddefnyddiol.

Datganiad Polisi yr Eglwysi Unigol ar Ddiogelu 

polisi eg unigol22Rydym yn falch i rannu'r datganiad polisi newydd hwn i’ch galluogi fel eglwys i ddatgan yn glir eich ymrwymiad ynghylch diogelu pobl fregus. Mae hyn yn unol â ymarfer gorau ac yn ofynnol gan lawer o gwmnïau yswiriant.

Hyd yn hyn roedd y datganiad polisi i'w weld ar ddechrau Adran 3 (plant) ac Adran 4 (oedolion bregus ) yn y Llawlyfr. 

Rydym bellach wedi cynhyrchu dogfen ar wahân sy hefyd yn ymddangos yn adran 1 o'r Llawlyfr 2022.  Mi fydd hyn yn eich galluogi i'w rannu a'i harddangos yn haws.

Gallwch ddod o hyd i'r ddogfen yma fel PDF neu fel dogfen Word fel y gallwch ychwanegu eich logo eich hun ayb.

Mae'r ddogfen  yn cynnwys gwybodaeth bwysig ar sut i roi eich polisi diogelu ar waith a manylion am y rolau a'r cyfrifoldebau diogelu a argymhellir yn yr eglwys leol.

Mae’r Datganiad Polisi hwn a’r canllawiau a’r gweithdrefnau sydd i’w cael yn y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus ynghyd ag unrhyw ddiweddariadau pellach – yn ffurfio eich polisi a gweithdrefnau diogelu. 

 

DATGANIAD POLISI DIOGELU

Fel eglwys rydym yn llwyr ymroddedig i ddiogelu lles ein haelodau a’r rhai a ymddiriedwyd i’n gofal.

Mae’r datganiad polisi hwn, ynghyd â’r canllawiau a’r gweithdrefnau a amlinellir yn y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus yn ffurfio ein polisi a’n dulliau gweithredu.

Rydym yn cydnabod y gall plant, pobl ifanc ac oedolion fod yn destun camdriniaeth ac esgeulustod; rydym felly’n cydnabod ei fod yn ddyletswydd arnom ni i sicrhau eu diogelwch yn y gweithgareddau a gynhelir yn enw’r eglwys hon. Ein amcan yw darparu amgylchedd gofalgar a byddwn yn ymateb yn sensitif ac yn ddi-oed i unrhyw bryderon. Bydd aelodau’r eglwys, staff cyflogedig a’r gwirfoddolwyr yn barchus o bawb yn y lle hwn, yn hyrwyddo ethos o wrando ar blant a phobl bregus, a bydd eu hymddygiad yn adlewyrchu egwyddorion yr Eglwys Gristnogol.

Bydd yr eglwys yn gofalu am blant, pobl ifanc ac oedolion bregus, ac yn eu diogelu drwy weithredu’n unol â’r ymarfer da canlynol:

o Ymateb priodol i bryderon a honiadau. (Adrannau 3.2 a 4.2 o’r Llawlyfr) Rydym yn ymrwymo, yn unol â’n polisi a chanllawiau, i ymateb yn ddi-oed pan fydd camdriniaeth yn cael ei amau neu unrhyw bryderon neu honiadau eraill yn cael eu dwyn i’n sylw. Os yw’r Awdurdod Lleol neu’r Heddlu’n cynnal ymchwiliad byddwn yn cydweithio â nhw.

o Proses recriwtio mwy diogel ar gyfer ein gweithwyr a’n gwirfoddolwyr. (Adran 2 o’r Llawlyfr) Bydd yn cynnwys gwiriadau DBS pob 4 blynedd ar gyfer pob gweithiwr, arweinydd ac ymddiriedolwr perthnasol.

o Hyfforddi a chefnogi ein gweithwyr a’n gwirfoddolwyr. Hyn er mwyn eu cynorthwyo â’u gwaith ac i sicrhau diogelwch y plant a’r bobl bregus fydd yn eu gofal.

o Hyrwyddo arfer da. (Adrannau 3.1 a 4.1 o’r Llawlyfr) Hyn i sicrhau amgylchedd ddiogel.

 
  

Darllenwch hefyd ein Datganiad o Fwriad yma   a'r cod ymddygiad sy'n cyd-fynd a fo. 

Ymddiriedolwyr elusen a’u cyfrifoldebau diogeluDarllenwch y daflen gwybodaeth newydd ( atodiad 7 yn y diweddariadau 2022 o’r Llawlyfr)

Ein Trefn Cwynion Rydym yn cydnabod ein bod yn cael pethau’n anghywir ar adegau, yn gwneud camgymeriadau, neu efallai nad ydym yn cyrraedd y safon uchel sy’n ddisgwyliedig ohonom.  Gwelwch ein trefn cwynion a'r ffurflen cwyno os ydych yn anhapus gyda’n gwasanaeth neu gyda’r ffordd yr ydych wedi cael eich trin gan aelod o staff.

Datganiad Polisi ar Recriwtio cyn droseddwyr (Atodiad 6 yn y Llawlyfr) cliciwch yma i'w darllen

Polisi ar storio, defnyddio, cadw a gwaredu datgeliadau a gwybodaeth am ddatgeliadau
cliciwch yma i ddarllen y datganiad polisi byr (Atodiad 5 yn y Llawlyfr) neu yma am y ddogfen polisi a gweithdrefnau llawn

Datgeliadau Aneglur a'r Proses Apêl cliciwch yma i'w ddarllen

Polisi y Panel ar Wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a chrynodeb o gymhwysedd. Cliciwch yma

Cewch fwy o fanylion hefyd yn adran 2 o'r Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus ac yn yr adran DBS o'n gwefan.

 

 

 

Asesiadau Risg

Mae asesiad risg yn ffordd ddefnyddiol o feddwl trwy'r risgiau a phroblemau posibl a all ddigwydd mewn unrhyw weithgaredd. Mae'n eich helpu i ddod o hyd i atebion, yn dangos eich bod wedi cynllunio'n ofalus ac yn eich helpu i gymryd y camau rhesymol angenrheidiol i gadw pawb yn ddiogel. Mae hefyd yn gallu diogelu enw da'r sefydliad. Mae’n ffordd dda o rannu gwybodaeth bwysig gydag aelodau eraill y tîm i sicrhau bod pawb yn dilyn arfer gorau posibl i weithredu mewn modd diogel ac atebol. Cliciwch yma i weld ein Canllaw cam wrth gam a ffurflen asesiad risg neu  yma am ddogfen Word