Polisiau Statudol Genedlaethol:
Rhain yw’r Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol i Gymru. Maent yn rhoi manylion am swyddogaethau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth ac esgeulustod. Gallwch ddarganfod mwy am weledigaeth a nodau’r gweithdrefnau yma.
Beth yw eu pwrpas: Mae’r Gweithdrefnau yn helpu ymarferwyr i gymhwyso deddfwriaeth a chanllawiau statudol ac (Adran 7 Cyfrolau 5 a 6 ar drin achosion unigol) i’w harfer.
Trwy’r Gweithdrefnau oll, fe welwch ‘Awgrymiadau Ymarfer’. Tra bod y Gweithdrefnau yn dweud wrthych beth i’w wneud, mae’r awgrymiadau am arfer yn rhoi gwybodaeth am sut i wneud y dasg. Mae’r awgrymiadau am arfer yn tynnu ar yr ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf mewn arfer.
I bwy y maent: Bwriedir i’r gweithdrefnau hyn fod yn ganllaw i arferion diogelu pawb a gyflogir yn y sector statudol, trydydd (gwirfoddol) a phreifat mewn iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, yr heddlu, cyfiawnder a gwasanaethau eraill. Maent yn gymwys i’r holl reolwyr sy’n gweithio yng Nghymru - boed wedi eu cyflogi gan asiantaeth a ddatganolwyd neu beidio.
Cwestiynau Cyffredin: dilynwch yn linc yma
Clwb gwyliau
Gweithgareddau megis Clybiau Gwyliau i blant dan 12 oed angen cael ei gofrestru yn ffurfiol os ydynt yn cyrraedd meini prawf gofal plant rheoledig / gofal dydd.
Yn gyffredinol, nid oes angen cofrestru gweithgareddau ar gyfer plant dros 12 oed na gweithgareddau ar gyfer plant dan 12 oed a ddarperir am lai na 2 awr y dydd neu lai na 6 diwrnod y flwyddyn.Fodd bynnag, dylech gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru i roi gwybod iddynt am y gweithgaredd i sicrhau nad oes angen cofrestru eich clwb.
Mae’n drosedd i beidio cofrestru gweithgareddau perthnasol.