Dewiswch eich iaith

(Mae'r wybodaeth hon hefyd yn Adran 2 o'r Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus)

Mae Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cynorthwyo sefydliadau i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel drwy eu galluogi i wirio gwybodaeth am unigolion sy'n cael ei ddal ar gofnodion cenedlaethol a lleol yr heddlu a rhestrau gwahardd cyfrinachol a gedwir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

Cofiwch mai dim ond un rhan o'r Broses Recriwtio Fwy Diogel yw'r gwiriad DBS.

SUT I WNEUD CAIS AM WIRIAD DBS TRWY'R PANEL DIOGELU:

Cliciwch yma i weld ein proses ymgeisio DBS papur. 

Ochr yn ochr â'r llwybr papur yma rydym wedi dechrau peilot newydd i gynnig gwiriadau DBS ar-lein mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. (Mai 2023) . Gweler nodyn am yr iaith Cymraeg yma .

Mae angen i bob ymgeisydd lenwi ffurflen 1 a dewis sut i barhau   Opsiwn A neu B

Opsiwn A > Yn electronig (Rhaid i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost - bydd dolen a chyfrinair yn cael ei hanfon yn uniongyrchol atoch er mwyn eich galluogi i gwblhau eich cais DBS ar-lein.  Bydd dal angen i chi gwrdd â gwiriwr y Panel i wirio'ch dogfennau adnabod.

Opsiwn B > Trwy lenwi ffurflen bapur  (bydd ffurflen gais papur DBS yn cael ei hanfon i'ch cyfeiriad post neu at ysgrifennydd eich eglwys neu'r cyswllt diogelu)

Gellir cwblhau Ffurflen 1 jotform ar lein   neu lawrlwytho ac ebostio/ postio  FFURFLEN 1 

Yn unol a chod ymddygiad DBS bydd angen i bob ymgeisydd DBS gwrdd wyneb yn wyneb â Gwiriwr er mwyn dilysu ei hunaniaeth gyda 3 dogfen megis pasbort, trwydded yrru. Mae'r rhestr lawn o'r dogfennau derbyniol  yma.

Mae rhestr o 'n wirwyr gwirfoddol ar gael gan y panel. Nodwch fod llawer o weinidogion a staff wedi'u hyfforddi i gyflawni'r rôl hon felly gofynnwch yn eich eglwys leol yn gyntaf.

Mi fydd angen i'r gwiriwr lenw  a dychwelyd Ffurflen 2 (word doc) or Ffurflen 2 PDF

 

Eich Tystysgrif DBS;

Byddwch yn derbyn tystysgrif papur gan y DBS ar ddiwedd y ddau lwybr.

Ni  fydd angen i'r rhai sy'n dewis llwybr A anfon eu tystysgrif papur i'r swyddfa., oni bai ein bod yn gofyn am hyn.

I ymgeiswyr sy'n dewis llwybr  B , bydd rhaid anfon eich ceritficate i swyddfa'r Panel . Oni bai eich bod yn cwblhau'r cam olaf hwn, ni allwn ddilysu bod gennych wiriad DBS ar gyfer eich rôl.  Byddwn yn ei ddychwelyd y tystysgrif atoch a rhoi gwybod i'ch eglwys fod y broses wedi'i chwblhau. 

Bydd swyddfa’r panel yn hysbysu’r eglwys leol pan fydd gwiriad DBS ar gyfer unigolyn wedi'i gwblhau. Dylai'r eglwys gadw cofnod cyfrinachol o statws DBS eu gwirfoddolwyr fel y gallant sicrhau bod adnewyddiadau'n cael eu cwblhau'n brydlon a phob gwirfoddolwr newydd yn cwblhau'r broses. Ni ddylai'r eglwys gadw unrhyw dystysgrifau DBS.

 

ADNEWYDDU DBS A'R GWASANAETH DIWEDDARU:

Dylid ailadrodd gwiriad bob 4 blynedd.

Os ydych wedi gwneud y rôl am gyfnod, bydd eich cydlynydd diogelu neu ysgrifennydd yr eglwys yn gallu dweud wrthych pan fydd angen eich gwiriad nesaf.

Os ydych chi wedi cofrestru gyda'r gwasanaeth diweddaru’r DBS  ac mae’n 4 blynedd ers i chi wneud gwiriad gyda'r panel, gallwch gwblhau eich adnewyddiad yn gyflym heb  ffurflen gais DBS newydd. Fel arfer, gallwn wirio'ch DBS ar-lein mewn mater o funudau.

Darllenwch ein taflen gwybodaeth am fwy o wybodaeth  neu llenwch y ffurflen hon a'i hanfon i'n swyddfa ynghyd â'ch tystysgrif wreiddiol neu cysylltwch â ni 

Nodwch : Os yw eich tanysgrifiad gwasanaeth diweddaru wedi darfod, os ydych wedi colli eich tystysgrif wreiddiol neu os nad yw eich rôl o fewn yr eglwys ar yr un lefel neu gyda'r un grŵp â'r dystysgrif wreiddiol efallai y bydd angen i ni ofyn i chi gwblhau ffurflen newydd.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu ewch i  Canllaw gwasanaeth diweddaru DBS

PWY SYDD ANGEN GWNEUD GWIRIAD DBS a BETH YW EIN POLISI?:

Pan fo rôl yn gymwys i gael gwiriad DBS, ein polisi yw y dylid gwneud un. Mae hyn yn unol ag egwyddorion arfer gorau a chanllawiau'r Comisiwn Elusennau. Ni allwn gwneud gwiriad rhag ofn i rywun benderfynu gweithio gyda grwpiau bregus yn y dyfodol.  Mae'n rhaid i ni allu dilysu bod pob rôl yn gymwys cyn cyflwyno’r cais i'r DBS.

Edrychwch ar y siartiau llif  ac enghreifftiau i weld pwy sy'n gymwys ac angen gwneud gwiriad DBS cliciwch yma  neu darllenwch ein taflen Polisi a Chrynodeb o'r Daflen Cymhwysedd yma.

Mae'r wybodaeth hon hefyd yn adran 2 o  Lawlyfr 2022

dal yn ansicr -edrychwch ar ein rhestrau gwirio isod...

Rhestr wirio ar gyfer cymhwyster gwirio DBS ar gyfer y rhai sy'n gweithio gydag Oedolion Bregus yma

Rhestr wirio ar gyfer cymhwyster gwirio DBS ar gyfer y rhai sy'n gweithio/gwirfoddoli gyda phlant yma

Goruchwyliaeth - er mwyn penderfynu os yw rôl gyda phlant yn cael ei reoleiddio gweithgaredd neu beidio mae'n hanfodol canfod os oes goruchwyliaeth ddigonol.  Cliciwch yma i ddarllen y canllawiau statudol ar oruchwylio.

Ymddiriedolwyr: Os yw ymddiriedolwr yn ymwneud â gweithgarwch a rheoleiddir ac yn gweithio'n agos gyda grwpiau bregus neu'n rheoli neu'n goruchwylio'r rhai sy'n gwneud y gwaith, bydd angen iddynt wneud gwiriad gyda gwiriad o'r rhestrau gwahardd oherwydd natur y gwaith, nid oherwydd y teitl  'ymddiriedolwr'. Fodd bynnag ymddiriedolwr, sy'n ymwneud â rhedeg eglwys sy'n darparu gweithredoedd i blant neu oedolion bregus hefyd yn gymwys i wneud gwiriad manwl (heb archwiliad o'r rhestrau gwahardd) hyd yn oed os nad ydynt yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r grwpiau bregus.  Mae hyn oherwydd bod eglwys sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion bregus yn cael ei ystyried yn "elusen i grwpiau bregus" at ddibenion gwirio DBS gyda’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y gwaith.

 

TROSEDDAU NEU RYBUDDION:

Mae llawer o fân troseddau a hen rhybuddion  yn cael eu hidlo ar ol 11 mlynedd ( 5.5 mlynedd os cyflawnwyd y drosedd o dan 18 oed) ac felly ni fydden yn ymddangos ar dystysgrif DBS ac nid oes angen eu datgelu ar ol yr amser nodwyd. Cafodd y rheolau hidlo hyn eu diweddaru ym mis Tachwedd 2020.  Yn gyffredinol mae mân euogfarnau'n cael eu hidlo ar ôl 11 mlynedd.ond ni fydd troseddau difrifol a threisgar (troseddau penodedig) a'r rhai sy'n arwain at ddedfryd o garchar byth yn cael eu hidlo. Gweler y rheolau hidlo newydd ar gyfer tystysgrifau DBS (o 28 Tachwedd 2020 ymlaen

Gweler y cyfrifiannell datgelu UNLOCK I weithio allan os oes angen datgelu eich euogfarn.  (UNLOCK yw  elusen genedlaethol annibynnol sy'n rhoi llais a chefnogaeth i bobl ag euogfarnau)

Gweler hefyd 2.7 yn y Llawlyfr

 

 Gofynnir i ni'n aml...A allaf ddefnyddio tystysgrif DBS sydd gen i o rôl arall?

" Athro ydw i - dwi wedi gwneud DBS yn gwaith, siawns nad oes angen i mi wneud un arall yn yr eglwys"

Ateb " Wel mae'n dibynnu. Oni bai eich bod wedi ymuno â gwasanaeth diweddaru DBS mae'r un rheol ag o'r blaen. Mae angen gwiriad DBS ar gyfer pob sefydliad rydych chi'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda."

Mae llawer o bobl yn credu bod un dystysgrif DBS yn ddigon ar gyfer yr holl waith maen nhw'n ei wneud gyda grwpiau bregus ac ni fydd angen iddyn nhw wneud un arall byth. Yn anffodus nid yw'r wybodaeth hon yn gwbl gywir. Nid yw tystysgrif DBS yn gludadwy yn awtomatig ond ers 2013 mae wedi bod yn bosibl ailddefnyddio tystysgrif os yw'r ymgeisydd wedi cofrestru gyda'r DBS Update service o fewn 30 diwrnod o dderbyn eu tystysgrif flaenorol.

Darllenwch ddaflen wybodaeth y Panel yma

Er mwyn ail-ddefnyddio eich tystysgrif bresennol ar gyfer eich gwaith eglwys bydd angen i chi fod wedi cofrestru ar-lein gyda'r gwasanaeth diweddaru. Bydd angen i ni weld y dystysgrif wreiddiol, derbyn eich caniatâd ysgrifenedig a sicrhau bod gwiriwr panel neu arweinydd eich eglwys wedi gwirio'ch hunaniaeth. Bydd y ffurflen hon yn eich arwain drwy'r broses.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu ewch i  Canllaw gwasanaeth diweddaru DBS

 

GWIRIADAU COFNOD TROSEDDOL I BOBL SY'N DOD O DRAMOR

Bydd gwiriad DBS ond yn rhoi gwybodaeth am yr amser  mae’r unigolion wedi bod yn y DU. Os oes gennych weithiwr/ gwirfoddolwr grŵpiau bregus sydd wedi byw dramor dylech ddilyn y gweithdrefnau a nodwyd isod i gael gwybodaeth tymor hir am eu hanes troseddol.

Sylwer: yn aml mae'n rhaid i'r unigolyn gael y wybodaeth hon cyn iddyn nhw adaely  gwlad flaenorol.

Canllawiau ar y broses ymgeisio ar gyfer gwiriadau cofnodion troseddol dramorGuidance ar y broses ymgeisio am wiriadau cofnodion troseddol dramor     COUNTRIES A-F
GWLEDYDD G-P

COUNRIES Q-Y

Edrychwch hefyd ar y tudalennau perthnasol canllawiau'r DBS ar gyfer Ymgeiswyr am reolau gwirio hunaniaeth a gofynion i weithwyr a gwirfoddolwyr nad ydynt yn AEE.

Nodyn - cyflogwyr sy'n gyfrifol am sicrhau bod gweithwyr a gwirfoddolwyr newydd a hawl i weithio yn y DU

 CYHOEDDIADAU DBS (DOLENNI i'r WEFAN DBS):

cliciwch yma i weld canllawiau'r DBS ar gyfer ymgeiswyr gan gynnwys gwybodaeth os oes gennych gyfeiriad anarferol
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y rheolau ynghylch hidlo hen euogfarnau a rhybuddion

Cliciwch yma i weld Canllawiau gwirio ID a'r rhestr gyfredol o ddogfennau y  bydd eu hangen arnoch i wneud eich cais

cliciwch yma i weld y rhestr gyfredol o gyhoeddiadau a diweddariadau DBS

Cod Ymarfer DBS  cliciwch yma

Gwasanaeth Diweddariad DBS  I ddarllen mwy am y gwasanaeth a all eich galluogi i ddefnyddio eich tystysgrif DBS eto cliciwch yma