Er bod diogelu yn fater i bawb ac mae'n wir fod cyfrifoldeb ar bob un ohonom i helpu i ddiogelu plant ac oedolion bregus, y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod yr eglwys yn cyflawni ei chyfrifoldebau diogelu ac yn dilyn y polisi diogelu yw penodi Cydlynydd Diogelu.
Rydym wedi paratoi taflen CYDLYNYDD DIOGELU YDW I ...beth nesaf? i helpu'r cydlynydd lleol i ddeall disgwyliadau y rôl ac rydym hefyd yn dechrau sesiynau hyfforddi newydd ar gyfer cydlynwyr lleol yn 2024.
Wnaethon ni derbyn adborth positif iawn i cyrsiau cyntaf a chynhalwyd ym Mis Chwefror 2024: " Wedi dysgu lot fawr am y maes - diolch yn fawr am gyflwyniad/hyfforddiant cynhwysfawr a chlir."
"Roedd yr hyfforddiant yn drylwyr iawn ac rwyf wedi cael llawer iawn o wybodaeth fydd yn help mawr gyda diogelu aelodau’r Capel"
20/5/24 Nos Lun 6.30-9.30 pm (Saesneg ZOOM) archebu yma
3/6/24 Dydd LLun 14.00-16.30 (Cymraeg ZOOM) archebu yma
Os hoffech fynychu cwrs cydlynydd diogelu ond mae'r dyddiau uchod yn anghyfleus, anfonwch ebost at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs nesaf. Nodwch hefyd os yw'n well gennych gwrs yn ystod y dydd neu gyda'r nos. Diolch
Dyma rai dogfennau eraill sy'n bwysig i'ch rôl:
Y Llawlyfr: https://panel.cymru/cy/llawlyfr-diogelu-grwpiau
Y Datganiad polisi Diogelu : Polisîau (panel.cymru)
Ffurflenni ar gyfer recriwtio mwy diogel gan gynnwys rhestr gwirio a ffurflenni ar gyfer gweithgareddau i blant
Taflen gwybodaeth DBS - polis a chrynodeb o gymhwysedd
Atodiad 10 - rhestr wirio diogelu
Creu Eglwys Fwy Diogel - llyfryn nodiadau sesiwn hyfforddiant gyda darnau o'r ffeil Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus a llawn gweithgareddau a syniadau i'ch helpu chi i greu eglwys fwy diogel.
BETH MAE’R RÔL YN EI GYNNWYS?
Os oes gennych rolau neu swyddi diogelu ychwanegol yn eich eglwys megis ymddiriedolwr diogelu neu gydlynydd DBS, gall eraill wneud rhai o'r elfennau hyn. Ceir crynodeb o'r rolau hyn yn nodiadau'r datganiad polisi diogelu https://panel.cymru/cy/polisiau-a-gwybodaeth
POLISI:
Ymgyfarwyddo â'ch polisi a gweithdrefnau diogelu. Mae gwefan y panel yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i gyflawni ein rôl. https://panel.cymru/cy/
Mae’r Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus yn ffurfio'r polisi a'r gweithdrefnau diogelu ar gyfer eglwysi o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae'n cynnwys canllawiau arfer da ynglŷn â gweithio gyda phlant ac oedolion bregus gan gynnwys recriwtio mwy diogel a DBS ac mae'n amlinellu beth i'w wneud os oes gennych bryder am unigolyn neu sefyllfa.
Cadwch y polisi diogelu yn gyfredol ac sy'n sicrhau bod yr holl bobl berthnasol yn gwybod amdano ac yn cael mynediad ato.
Sicrhau bod y datganiad polisi yn cael ei arddangos a'i ddiweddaru gyda'r manylion cyswllt perthnasol.
Gwnewch yn siŵr bod diogelu ar yr agenda yng nghyfarfodydd yr eglwys ond dylech gael eich cefnogi yn eich rôl gan arweinwyr ac ymddiriedolwyr yr eglwys.
RECRIWTIO MWY DIOGEL A GWIRIADAU DBS:
Hyrwyddo'r broses recriwtio fwy diogel. Mae gwybodaeth am hyn yn Adran 2 y Llawlyfr neu ar-lein. https://panel.cymru/cy/recriwtio-mwy-diogel
Gwnewch yn siŵr bod yr holl bobl sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion bregus ac sy’n cymwys <https://panel.cymru/images/DBS_eligibility_flow_chart_2022.pdf> i wneud gwiriad DBS yn cael gwiriad cyfredol ( pob 4 blwyddyn). Gweler nodiadau diwedd, adran 2 o'r Llawlyfr neu ar-lein am fwy o fanylion.
Efallai y gofynnir i chi weithredu fel y dilysydd ID ar gyfer gwiriadau DBS.
Gwnewch yn siŵr bod gwirfoddolwyr wedi mynychu hyfforddiant diogelu. https://panel.cymru/cy/hyfforddiant
Gwnewch yn siŵr bod gwirfoddolwyr wedi darllen a deall y cod ymddygiad diogelu. ( Atodiad 2A yn y Llawlyfr)
Ceisiwch gyngor pan fo angen a chysylltwch â swyddfa'r Panel ar faterion DBS.
COFNODION:
Derbyn hysbysiadau bod gwiriadau DBS wedi'u cwblhau gan y Panel.
Cadw cofnod cyfrinachol o'r holl wirfoddolwyr sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion bregus gan nodi dyddiadau gwiriadau a hyfforddiant DBS a fynychwyd a sicrhau bod adnewyddiadau yn cael eu cwblhau.
Sicrhau bod unrhyw gytundebau diogelu yn cael eu cadw'n ddiogel a'u monitro'n briodol.
PRYDERON A HONIADAU DIOGELU : Gweler Ôl-nodiadau am fwy o fanylion[i]
Derbyn ac ymateb i bryderon/ datgeliadau a honiadau sy'n cael eu rhannu gyda chi gan unigolyn sy'n dioddef cam-drin neu gan drydydd parti. Gwneud nodiadau gofalus o sgyrsiau a/neu bryderon.
Mewn argyfwng, os oes pryder am ddiogelwch plentyn neu oedolyn y tu allan i oriau cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Heddlu ar unwaith.
Cysylltwch â'r Swyddog Diogelu y Panel cyn gynted â phosibl i gael cyngor a chefnogaeth .
Cysylltu â swyddog diogelu'r panel i wneud cyfeiriadau at wasanaethau cymdeithasol a chydweithio â gwasanaethau statudol yn ôl yr angen.
Peidiwch ag ymchwilio i unrhyw honiadau neu bryderon. Gofynnwch am gyngor.
GWNEWCH YN SIŴR BOD YR HOLL BRYDERON NEU DDIGWYDDIADAU DIOGELU YN CAEL EU HADRODDSWYDDOG DIOGELU'R PANEL AR UNWAITH.