Dewiswch eich iaith

MEWN ARGYFWNG

Ac yn enwedig os yw rhywun mewn perygl uniongyrchol o niwed, dylech bob amser ffonio 999 ar unwaith a gofyn am yr heddlu.

FFONIWCH 999  I GYSYLLTU A’R HEDDLU NEU AMBIWLANS

NEU FFONFIWCH  EICH ADRAN GWASANAETHAU CYMDEITHASOL LLEOL / BWRDD DIOGELU LLEOL GAN DDEFNYDDIO'R RHIFAU CYSWLLT  HYN

NEWYDD: LLINELL GYMORTH Y TU ALLAN I ORIAU SWYDDFA

O FIS MAWRTH 20240303 003 1111

Mae'r Panel Diogelu Cydenwadol bellach yn partneru gyda THIRTYONE:EIGHT i alluogi eglwysi o'r tri enwad i gael mynediad i'w  Llinell Gymorth Diogelu  y tu allan i oriau. 

5pm - hanner nos a 7am - 9am Dydd Llun-Gwener;  07am - hanner nos ar benwythnos, ar wyliau banc a phan fydd y tîm Diogelu ar wyliau/absenoldebau eraill.

Yn ystod yr amseroedd uchod, fe'ch cynghorir i gysylltu â Llinell Gymorth Diogelu Thirtyone:eight ar 0303 003 1111 ar gyfer ymholiadau diogelu brys.

Mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth rhwng y ddau sefydliad yn caniatáu i dîm Diogelu'r Panel dderbyn copi o'r cyngor ysgrifenedig mae 31:8  wedi roi i eglwysi/galwyr perthnasol o'r tri enwad, er mwyn i swyddogion y Panel cynnig cymorth a dilyniant priodol  ôl ddychwelyd i'r swyddfa.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Linell Gymorth Diogelu Thirtyone: eight yma: https://thirtyoneeight.org/help-and-resources/safeguarding-helpline/

Gweler hefyd Cyngor a Chefnogaeth (panel.cymru) 

 

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn teimlo'n hunanladdol, neu os oes perygl iddyn nhw niweidio eu hunain neu eraill, ffoniwch 999, neu cysylltwch â'r Samariaid   neu SHOUT - Llinell Negeseuon Testun Argyfwng

(Llinell Samariaid Cymraeg: 08081640123 7pm tan 11pm)    

 Os ydych yn CLYWED, GWELD neu AMAU bod plentyn, person ifanc neu oedolyn bregus wedi dioddef neu mewn perygl o ddioddef camdriniaeth, esgeulustod neu niwed gweler ein canllaw cam wrth gam yma    

Gweler hefyd mwy o rifau a llinellau yma: cyngor-a-chefnogaeth


ADRODD PRYDER YNGHYLCH DIOGELWCH PLENTYN NEU PERSON IFANC HYD AT 18 OED:

Os ydych chi’n pryderu am blentyn yn eich teulu neu gymuned, ffoniwch 101. Mewn argyfwng ffoniwch 999 Heddlu neu Ambiwlans. 

Neu, gallwch gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal.

Mae’r manylion cyswllt ar gael drwy’r byrddau diogelu lleol:

Bwrdd Diogelu Plant Caerdydd a’r Fro

CYSUR/Bwrdd Diogelu Plant y Canolbarth a'r Gorllewin

Bwrdd Diogelu Plant Cwm Taf Morgannwg 

Bwrdd Diogelu Plant Gwent

Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru - gweler gwaelod y tudalen

Bwrdd Diogelu Plant Gorllewin Morgannwg (Bae’r Gorllewin) (Abertawe a NPT)

 

Adrodd pryder ynghylch diogelwch oedolyn dros 18 oed:

Os ydych yn bryderus am ddiogelwch oedolyn yn eich teulu neu gymuned, ffoniwch yr heddlu ar 101.

Neu, cewch gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal.

Mae’r manylion cyswllt ar gael drwy’r byrddau diogelu lleol:

Bwrdd Diogelu Oedolion Caerdydd a’r Fro

CYSUR/ Bwrdd Diogelu Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru

Bwrdd Diogelu Oedolion Cwm Taf Morgannwg (gweler ochr dde’r dudalen)

Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent

Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru (gweler troed y dudalen)

Bwrdd Diogelu Oedolion Gorllewin Morgannwg (Bae’r Gorllewin)

 Gall eich galwad wneud gwahaniaeth o ran cadw oedolyn neu blentyn yn ddiogel.

Nid yw’r gwasanaethau a’r lleoliadau cymdeithasol, sydd fel rheol yn cefnogi plant ac oedolion, yn gweld pobl o’r gymuned yn yr un modd ag arfer. Gallwch wneud gwahaniaeth mawr o ran cadw plant ac oedolion yn ddiogel drwy roi gwybod i wasanaethau os ydych chi’n meddwl bod angen cymorth ar rywun.

 

CAM-DRIN DOMESTIG A RHYWIOL:

Dewch o hyd i’ch gwasanaeth lleol : Welsh Women's Aid (welshwomensaid.org.uk)

BYW HEB OFN : Cymorth i’r rheiny sy’n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol     https://llyw.cymru/byw-heb-ofn -   

Gyda mynediad at sgwrsio byw 9am - 9pm    Cyngor a chymorth 24 awr : 0808 80 10 800    byw heb ofn

 

Clare's Law (clares-law.com) a elwir hefyd yn y Cynllun Datgelu Trais Domestig (Domestic Violence Disclosure Scheme -DVDS) yn bolisi heddlu sy'n rhoi'r hawl i bobl wybod a oes gan eu partner presennol neu gyn-bartner unrhyw hanes blaenorol o drais neu gamdriniaeth.

 

 

 

Gweler hefyd mwy o rifau ar wefan y Panel Diogelu Cydenwadol  Cyngor a Chefnogaeth (panel.cymru)