Dewiswch eich iaith

 

I roi gwybod am bryder, cysylltwch â Julie Edwards, Swyddog Diogelu'r Panel sef y person diogelu dynodedig ar gyfer y tri enwad. Mwy o wybodaeth yma

MEWN ARGYFWNG: Os ydych chi'n poeni bod plentyn neu oedolyn mewn perygl uniongyrchol neu ei fod yn argyfwng, peidiwch ag oedi cyn ffonio 999  neu gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal. Manylion cyswllt yma

  Gallwch ffonio:

Yn ystod oriau swyddfa - ffoniwch 01745 817584 / 07957510346

Tu allan i oriau swyddfa - ffoniwch llinell gymorth thirtyone:eight  0303 003 1111
Mae thirtyone:eight yn elusen diogelu profiadol sy'n cefnogi nifer fawr o eglwysi ledled y DU. 
 
(Mae'r Panel wedi prynu'r gwasanaeth hwn ar eich rhan er mwyn sicrhau bod cymorth a chyngor diogelu ar gael i chi y tu allan i oriau swyddfa (ynghyd â phenwythnosau neu wyliau banc). Rhowch wybod i'r cynghorydd fod eich eglwys yn gysylltiedig â'r Panel Diogelu Cydenwadol sydd â chytundeb rhannu gwybodaeth gydag  thirtyone:eight).

Gallwch hefyd anfon e-bost at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. (unwaith eto yn nodi eich bod yn gysylltiedig â'r Panel Diogelu Cydenwadol sydd â chytundeb rhannu gwybodaeth gydag thirtyone:eight)

Bydd yr ymgynghorydd yn anfon e-bost gyda manylion unrhyw gyngor a roddir i chi a hefyd i'r Panel fel y gallwn gynnig Cymorth pellach os oes angen.

 
 Yn ysgrifenedig:

Gallwch adrodd am bryder diogleu yn gyfrinachol ac yn ddiogel i swyddogion y Panel gan ddefnyddio'r ddolen neu'r cod QR isod. Swyddog diogelu y panel ydy'r swyddog diogelu dynodedig yr tri enwad.

Mae hyn yn defnyddio ein system rheoli achos a ddarperir gan The Safeguarding Company.  Bydd y pryder yn cael ei anfon drwy e-bost at Swyddogion y Panel. Noder : nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau swyddfa.   Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys manylion cyswllt fel y gallwn gysylltu am fwy o wybodaeth neu i roi gwybod i chi sut rydym wedi ymateb i'ch ymholiad. PEIDIWCH Â DEFNYDDIO'R FFURFLEN HON AR GYFER SEFYLLFAOEDD SYDD ANGEN SYLW BRYS NEU ARGYFWNG

Ffurflen i adrodd     

 iknow_embed_code.png

Mewn argyfwng ffoniwch 999

 Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch 01745 817584 / 07957510346

 tu allan i oriau swyddfa y Panel (gan gynnwys penwythnosau /gwyliau banc)  ffoniwch 0303 003 1111 (llinell gymorth thirtyone:eight). 
 

Mwy o ffynonellau cefnogaeth yma