Dewiswch eich iaith

 

Pan mae camdriniaeth yn cael ei ddatgelu'n uniongyrchol i'r Panel Diogleu Cydenwadol neu pan ddown yn ymwybodol o gamdriniaeth neu niwed, boed yn gyfredol neu'n hanesyddol, rydym yn ymateb i ddioddefwyr a goroeswyr mewn modd sensitif a thosturiol.  Byddwn bob amser yn cymryd datgeliadau o gam-drin o ddifrif ac ni fyddwn byth yn diystyru unrhyw bryderon nac yn cuddio unrhyw gam-drin neu gam-drin honedig.

Mae gan yr eglwys gyfle unigryw i gynnig gweinidogaeth sensitif, fugeiliol mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar i'r rhai sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin. Mae'n hanfodol ein bod yn gwrando a chlywed llais y dioddefwr neu'r goroeswr a'i ystyried eu dymuniadau a’u hanghenion.  Mae ymateb yn debygol o gynnwys cynnig cynorthwyo'r goroeswr i ddarganfod cymorth priodol os dyma yw ei dymuniad.

Nid yw'r Panel yn gallu darparu gwasanaeth cymorth arbenigol i oroeswyr ac rydym yn cydnabod y dylid gadael cwnsela neu waith therapiwtig bob amser i'r rhai sydd â chymwysterau priodol. Dylai eglwysi lleol barchu hyn hefyd a bod yn ymwybodol y gall problemau godi pan nad yw ffiniau'n cael eu parchu ac unigolion dibrofiad yn ymgymryd â rôl "cwnsela."

Mae gan y sefydliadau canlynol brofiad a hyfforddiant i gynnig cefnogaeth:

Cymorth a chefnogaeth ar gyfer Dioddefwyr a Goroeswyr

Replenished Life - elusen gynhwysol ac aml-ffydd sydd wedi'i lleoli yng Nghymru. Mae'n cynnig cymorth a gwybodaeth ynglŷn â cham-drin a thrawma o fewn sefydliadau ffydd gan gynnwys llinell gymorth i'r rhai sydd wedi profi camdriniaeth a thrawma mewn cyd-destun crefyddol https://www.replenished.life/supportline

MACSAS - Ministry and Clergy Sexual Abuse Survivors 
yn cefnogi pobl sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol fel plant neu oedolion, gan weinidogion, clerigwyr neu eraill o fewn yr Eglwys. Maent yn cefnogi'r rheiny sydd wedi parhau â'u cymunedau Cristnogol neu wedi eu gadael
Llinnell gymoerth am ddim (freephone Helpline)  08088 01 03 40  (Mercher 7-9.30 neu Sadwrn  9-11am)  www.macsas.org.uk/

THE SURVIVORS TRUST The Survivors Trust (TST) yn asiantaeth ymbarél genedlaethol ledled y DU ar gyfer 130 o sefydliadau arbenigol sy’n cynnig cefnogaeth i helpu gydag effaith rêp, trais rhywiol a thrais a cham-drin rhywiol yn ystod plentyndod.  https://www.thesurvivorstrust.org/

NAPAC (National Association for People abused in Childhood) yn cynnig cymorth i oedolion sy'n goroesi o bob math o gamdriniaeth plant, gan gynnwys camdriniaeth gorfforol, rhywiol, emosiynol neu esgeulustod.
Llinell gymorth am ddim o linellau ffôn 'landline' a ffonau symundol 0808 801 0331  (Llun-Iau10am-9pm & Gwener 10am-6pm) Ni fydd y galwadau yn ymddangos ar eich bil ffôn https://napac.org.uk/what-napac-does/

Cerrig Camu / Stepping Stones elusen gofrestredig sy'n darparu gwasanaethau therapiwtig i oedolion sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol fel plant ar draws Gogledd Cymru /  is a registered charity providing therapeutic services to adults who have been sexually abused as children across North Wales https://steppingstonesnorthwales.co.uk/

Cam-drim Domestig a Rhywiol

Cam-drim Domestig a Rhywiol

Dewch o hyd i’ch gwasanaeth lleol : Welsh Women's Aid (welshwomensaid.org.uk)

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn :  mwy o wybodaeth am y gwasanath a ffilm fer

Cyngor a chymorth 24 awr : 0808 80 10 800 https://llyw.cymru/byw-heb-ofn   Gyda mynediad at sgwrsio byw 9am - 9pm   byw heb ofn

Clare's Law (clares-law.com) a elwir hefyd yn y Cynllun Datgelu Trais Domestig (Domestic Violence Disclosure Scheme -DVDS) yn bolisi heddlu sy'n rhoi'r hawl i bobl wybod a oes gan eu partner presennol neu gyn-bartner unrhyw hanes blaenorol o drais neu gamdriniaeth.

New Pathways Rape Crisis and Sexual Abuse Support Services  De Cymru  http://www.newpathways.org.uk/

Rape & Sexual Abuse Support Centre Gogledd Cymru /Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru 01286 669267 www.rasawales.org.uk/  

Cerrig Camu/Stepping Stones elusen gofrestredig sy'n darparu gwasanaethau therapiwtig i oedolion sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol fel plant ar draws Gogledd Cymru  https://steppingstonesnorthwales.co.uk/

Llinell gymorth  cam-drin domestig genedleaethol y DU  24 awr 0808 2000 247           https://www.nationaldahelpline.org.uk/