Dewiswch eich iaith

 

Mawrth 2024 Deddf Troseddau Rhywiol 2003

Yn dilyn ymgyrch dan arweiniad y NSPCC caewyd y bwlch ym mis Mehefin 2022 i sicrhau bod rolau crefyddol a chwaraeon bellach yn cael eu categoreiddio fel Swyddi o ymddiriedaeth fel sydd wedi bod yn wir am rolau fel athrawon a meddygon. Roedd llawer yn synnu i sylweddoli nad oedd arweinwyr crefyddol a hyfforddwyr chwaraeon eisoes  yn cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth hon.

Diwygiwyd Adran 22A o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 i gynnwys rolau ychwanegol o ymddiriedaeth o fewn chwaraeon a lleoliadau crefyddol os ydynt yn hyfforddi, addysgu, neu oruchwylio eraill yn rheolaidd.

Mae hyn yn golygu ei bod hi bellach yn erbyn y gyfraith i rywun mewn swydd o ymddiriedaeth gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn yn ei (g)ofal, hyd yn oed os yw'r plentyn hwnnw dros oedran cydsynio (16 oed neu drosodd).

 Mae Atodiad 3 o'r Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus wedi'i ddiwygio i gynnwys y newid  yn y gyfraith.

 

Mawrth 2024 - NEW OUT OF HOURS SERVICE 

 Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod y Panel, mewn partneriaeth â Thirtyone:eight , bellach yn gallu cynnig gwasanaeth y tu allan i oriau.

Gall eglwysi o'r tri enwad bellach gysylltu â llinell gymorth diogelu Thirtyone:eight ar 0303 003 1111 yn ystod yr oriau canlynol.

 5pm - hanner nos, 7am - 9am, penwythnosau a gwyliau banc ac yn ystod gwyliau swyddogion diogelu

Am fwy o wybodaeth, gweler y tudalen rhifau cyswllt argyfwng  neu cyngor a chefnogaeth ein gwefan

Gwasaneth Saesneg yn unig

31 82

Hydref 2023

Neges i gydlynwyr diogelu yn yr eglwys leol.

Os ydych newydd ymgymryd â rôl ddiogelu yn eich eglwys leol - neu'n meddwl amdani - neu os ydych wedi bod yn gwneud hyn ers tro - Mae'r dudalen newydd hon ar wefan y panel ar eich cyfer chi  https://panel.cymru/cy/cydlynydd-diogelu-lleol

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y rôl a dolenni ac adnoddau defnyddiol gan gynnwys y daflen newydd hon : Cydlynydd_diogelu ydw i ...beth nesaf?_ i'ch helpu i ddeall y rôl a'ch cyfrifoldebau diogelu.

Mae yna sesiynau hyfforddi newydd ar gyfer Cydlynwyr Diogelu ar y gweill yn 2024.  Mae'r un cyntaf ar 15/2/24 gyda mwy o ddyddiadau i ddilyn. Hyfforddiant (panel.cymru)

Cofiwch nid ydych ar eich pen eich hun ac mae swyddogion y panel yno i'ch helpu yn eich rôl.

 

Haf 2023

Mae Julie a Sian  wedi teithio rownd y wlad yr Haf yma i ymweld â chyfarfodydd blynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a'r Eglwys Bresbyteraidd Cymru yng Nghaerdydd, Risca, Rhosllannerchrugog a Chaerfyrddin. Roedden yn codi ymwybyddiaeth am yr adnoddau newydd a dod i nabod pobl ychydig yn well!

Dyma erthygl fyr ysgrifennodd Julie ar gyfer Llais y Gymanfa EBC ond roedd hi'n rhannu'r un neges gyda'r 3 enwad: 

Mae 2022/23 wedi bod yn flwyddyn brysur i’r Panel Diogelu Cydenwadol wrth inni baratoi diweddariadau ar gyfer eich polisi a gweithdrefnau diogelu - Y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus. Mae pob ychwanegiad wedi'u cynllunio i’ch helpu i roi eich polisi diogelu ar waith gan gynnwys: datganiad polisi'r eglwys unigol yn adran 1 i hybu dealltwriaeth yn lleol, côd ymddygiad diogelu (atodiad 2a) i helpu gwirfoddolwyr i ddeall eu cyfrifoldebau a rhestr wirio diogelu (atodiad 10), i'ch cynorthwyo i asesu lle ydych chi arni gyda diogelu. Gallwch ddod o hyd i’r holl ddiweddariadau ar ein gwefan https://panel.cymru/cy/llawlyfr-diogelu grwpiau. Cofiwch hefyd am ein poster newydd a’n cerdyn post ymateb i gonsern. Mae hyfforddiant yn elfen bwysig o’n gwaith ac yn offeryn craidd, i godi ymwybyddiaeth am ddiogelu a sicrhau bod pobl yn glir ynglŷn â sut i ymateb i bryderon ynghylch plant a phobl bregus. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o adroddiadau am bryderon a cheisiadau am gymorth a chyngor a gawn ac yn credu bod hyn yn ganlyniad i’r holl hyfforddiant dros y blynyddoedd. Mae gennym 3 lefel o hyfforddiant sef: sylfaenol, ar gyfer pawb, sy’n codi ymwybyddiaeth diogelu ac yn cynnwys oedfa ddiogelu yn flynyddol. Gall eglwysi drefnu gwasanaeth ar Sul Diogelu ym Mis Tachwedd neu ddewis diwrnod arall https://panel.cymru/cy/sul-diogelu. Mae ein hyfforddiant lefel 1 (sesiwn 2 awr) ar gyfer gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr. Mae gennym dîm o wirfoddolwyr i weithio gyda’n swyddog hyfforddiant i gyflwyno sesiynau wyneb yn wyneb neu ar lein. Mae lefel 2 ar gyfer gweinidogion a staff (6 awr). Cewch wybodaeth am hyfforddiant a dolenni i archebu eich lle ar ein gwefan. https://panel.cymru/cy/hyfforddiant. Wrth gwrs, rydym yn parhau i brosesu cannoedd o wiriadau DBS bob blwyddyn ond gyda opsiwn newydd eleni i wneud hyn ar lein. https://panel.cymru/cy/dbs .

Cofiwch bod Sian a Julie yma i’ch helpu gyda phob elfen o’ch cyfrifoldebau diogelu. Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. 

Sian_a_Julie_07-2023.jpg

 

Haf 2023

"Ydy fy mhlentyn digon hen i aros adre neu fynd allan ar ei ben/phen ei hun?"

Wrth i gwyliau haf cychwyn - Ydach chi'n gofyn y cwestiwn pwysig yma?   ewch i'n tudalen gwybodaeth defnyddiol   am gyngor gan yr NSPCC.

 

 Gorffennaf 2023

Poster a thaflen newydd 

Rydym yn falch i rannu ein poster A4 a thaflen gwybodaeth sut i ymateb i bryder maint A6 

Ar gael gan y swyddfa neu i llawr llwytho uchod.

poster cym 06 23                                          leaflet ymateb i bryder 06 23 cym

 

29/9/22  RYDYM YN FALCH O RANNU NEWYDDION CYFFROUS; MAE'R LLAWLYFR WEDI'I DDIWEDDARU YMA I CHI EI LAWR-LWYTHO. Cliciwch ar y ddolen am fwy o wybodaeth

 

SUT MAE PETHAU?  Yn fwy penodol sut mae eich eglwys yn gwneud o ran diogelu grwpiau bregus?  Wrth i ni ddod at ddiwedd gwyliau'r haf rydyn ni'n dechrau meddwl am baratoi ar gyfer gweithgareddau newydd ym mis Medi - BETH AM WNEUD HUNAN ASESIAD DIOGELU FEL RHAN O'CH PARATOADAU?

Rydym wedi bod yn gweithio ar ddiweddariadau ar gyfer y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus ers sbel. Maent gyda’r yr argraffwr ar hyn o bryd a dylai pob eglwys derbyn eu copi yn yr Hydref ond dyma ragolwg o un o'r ychwanegiadau newydd: Atodiad 10: Yr Eglwys Fwy Diogel - rhestr wirio hunanasesu   

Mae'n gofyn rhai cwestiynau pwysig i’ch cynorthwyo i asesu sut rydych chi'n gwneud yn lleol. Dyma rai enghreifftiau:

A yw pawb yn gwybod am bolisi a gweithdrefnau diogelu eich eglwys a lle i gael hyd iddo

  • A yw eich Ymddiriedolwyr a’ch Arweinwyr yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau diogelu?
  • Ydych chi'n dilyn canllawiau recriwtio mwy diogel- gan gynnwys gwiriadau DBS- wrth ganfod a chyflogi gwirfoddolwyr a staff  ?
  • Ydych chi'n hyderus bod arweinwyr, staff a gwirfoddolwyr yn eich eglwys yn ymwybodol o'u swyddogaethau a’u cyfrifoldebau diogelu? ? Ydyn nhw wedi derbyn yr hyfforddiant priodol gan gynnwys hyfforddiant gloywi/atgoffa?

Mae yna hefyd ddolenni a fydd yn eich arwain at ragor o wybodaeth a chyngor.

Mae'r ddogfen hon yn seiliedig ar y rhestr wirio diogelu rhyngweithiol gan Ymddiriedolaeth Ann Crafft: Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am y caniatâd i rannu https://www.anncrafttrust.org

 

SUL DIOGELU  - CADW'R DYDDIAD 20/11/22      

  Eleni mae'r Panel Diogelu Cydenwadol yn eich annog i ymuno â miloedd o eglwysi eraill ar draws y DU i dynnu sylw at bwysigrwydd amddiffyn pobl fregus fel rhan o Sul Diogelu sef ymgyrch a gychwynnwyd gan elusen diogelu Cristnogol - Thirtyone:eight.

Bydd Sul Diogelu yn cael ei chynnal eleni ar 20fed o Dachwedd, sy’n cyd-fynd â'r Wythnos Genedlaethol Diogelu Oedolion (21–27 Tachwedd). Os nad yw'r dyddiad hwn yn gyfleus, beth am ddewis Dydd Sul arall, neu ddefnyddio rhan o’ch gwasanaeth arferol i godi ymwybyddiaeth am ddiogelu yn eich eglwys?

Ar draws Prydain - cymerodd dros 2,000 o eglwysi ran llynedd, ac rydym yn gobeithio y bydd yna mwy eleni.

Sut i gymryd rhan:

  1. Gallwch gofrestru gyda thirtyoneeight.org a lawrlwytho pecyn adnoddau am ddim i'ch helpu i gynllunio'r digwyddiad, gan gynnwys gweithgareddau i blant.
  2. Gallwch gysylltu â ni (panel.cymru) neu dewch yn ol i'r tudalen arbennig hon sy'n hybu Sul Diogelu (panel.cymru) o ganol Mis Medi ymlaen i lawrlwytho ein hadnoddau a'n ffilm ar gyfer eich gwasanaeth. (Cymraeg a Saesneg)
  3. Mi fydden ni wrth ein boddau cael gwybod os ydych yn bwriadu cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd Sul Diogelu. Cysylltwch â ni i adael i ni wybod:  Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Dywedodd Justin Humphreys, Cyd-Brif Weithredwr Thirtyone:eight:

"Ni allwn anwybyddu'r camdriniaeth sydd wedi digwydd o fewn yr Eglwys... mae Sul Diogelu yn gyfle i daflu goleuni ar y gwaith mae cymaint o eglwysi'n ei wneud i greu mannau o addoli yn fwy diogel. Rhaid i ni beidio anghofio bod amddiffyn pobl fregus wrth wraidd y neges Gristnogol o gyfiawnder a gobaith. Rwyf am ddiolch i bawb sy'n gwneud y gwaith hanfodol hwn ac i rai sy’n gymryd rhan yn yr ymgyrch eleni i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelu yn ein heglwysi a'n cymunedau."

 

Ionawr 2022 – diweddariad hyfforddiant :

Rydym yn symud tuag at fodel newydd o ddarparu hyfforddiant, lle mae tîm bach o wirfoddolwyr o bob cwr o Gymru wedi'u hyfforddi i arwain sesiynau hyfforddiant diogelu sylfaenol i wirfoddolwyr mewn eglwysi lleol. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a fydd yn cynyddu'r hyfforddiant sydd ar gael.

Mae ein hyfforddwyr gwirfoddol yn derbyn hyfforddiant eu hunain ar hyn o bryd i sicrhau bod yr hyfforddiant newydd yn gyson ac o ansawdd uchel. Byddwn yn cyflwyno'r rhaglen hon yn ystod y misoedd nesaf. Bydd Julie, ein Swyddog Diogelu a Hyfforddiant yn parhau i ddarparu hyfforddiant i'r staff a'r gweinidogion ac mae'n goruchwylio'r prosiect newydd hwn.  Yn y cyfamser, cysylltwch â'r swyddfa gyda'ch ceisiadau am hyfforddiant yn ôl yr arfer.
 

HYFFORDDIANT GWIRWYR DBS: Mae sesiwn hyfforddi  fer trwy ZOOM wedi'i threfnu ar 14 Medi 2021 2-3pm i alluogi Gweinidogion a chydlynwyr diogelu'r Eglwys i wirio ffurflenni DBS a dogfennau ID yn lleol. Cysylltwch â swyddfa'r Panel i archebu'ch lle neu i gael mwy o wybodaeth.

Mis Mai 2021

DIWEDDARIAD COVID 19: Gwirio hunaniaeth a Ffurflenni DBS
Ymhellach i'r datganiad ym mis Ionawr 2021 - erbyn hyn mae'n bosibl ail-ddechrau gwirio wyneb yn wyneb gyda
mesurau diogelwch priodol mewn lle (masgiau / hylendid dwylo / gel / awyr agored a.y.b.).
Hefyd gan fod rhai eglwysi bellach ar agor ac wedi cyflawni asesiad risg Covid-19 mae'n bosib gallwch ddefnyddio
yr adeilad ar gyfer y gwaith gwirio dogfennau, gyda chaniatâd y capel, ond rhaid parhau i ddilyn rheolau pellhau
cymdeithasol a diogelwch. Ni fydd disgwyl i unrhyw Wiriwr fyddai'n cael eu diffinio fel rhywun sy'n fwy agored i niwed yn sgîl y
coronafeirws (a elwir gynt yn gynllun 'gwarchod' (shielding)) neu unrhyw un nad ydynt yn dymuno
cwrdd ag ymgeiswyr wyneb yn wyneb wneud hyn. Mae opsiynau eraill ar gael - cysylltwch â'r swyddfa.
Cysylltwch â'r swyddfa os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau.

Chwefror 2021

 Bellach mae gennym gyfleuter 'chwilio' ar ein gwefan i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei angen arnoch!

 

 Ionawr 2021

DIWEDDARIAD COVID 19: Gwirio hunaniaeth a Ffurflenni DBS

Mae gwirio ffurflenni DBS wedi dod yn anoddach oherwydd cyfyngiadau Covid 19 ac ni ddylai unrhyw un dorri rheolau diogelwch na rhoi eu hunain nac eraill mewn perygl yn ystod y broses gwirio hunaniaeth (ID).

NI DDYLAI UNRHYW WIRIO WYNEB YN WYNEB GYMRYD LLE YN YSTOD Y CYFNOD CLO PRESENNOL (IONAWR 2021)

Mae'r DBS wedi gwneud newidiadau dros dro i'w canllawiau gwirio ID wrth alluogi gwirio dros gynadledda fideo neu ddefnyddio dogfennau wedi'u sganio. Fodd bynnag, mae dal angen dangos y dogfennau gwreiddiol cyn gynted â phosibl.

Cysylltwch â Swyddfa'r Panel am fwy o wybodaeth

Disgwyliwn pan fydd cyfyngiadau'n cael eu llacio efallai y byddwn yn gallu ailddechrau dilysu wyneb yn wyneb gyda mesurau diogelwch priodol ar waith (masgiau / hylendid dwylo / gel / awyr agored ayb).

Mae'r anawsterau hyn wedi golygu nad yw llawer o adnewyddiadau DBS arferol wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf ac rydym yn ymddiheuro am yr oedi.

Wrth gwrs mae’n dal yn bosibl adnewyddu eich DBS gyda ni ond yn ystod yr amser hwn rydym yn blaenoriaethu gwiriadau DBS am y tro cyntaf.

Cofiwch: ni ddylai unrhyw un ddechrau gwaith uniongyrchol heb DBS dilys.

 Rhagfyr 2020

Datganiad Polisi Eglwysi Unigol ar Ddiogelu

Rydym yn falch i rannu'r datganiad polisi eglwys unigol hwn i’ch cynorthwyo i ddatgan yn glir eich ymrwymiad  fel eglwys ynghylch diogelu pobl fregus.

Hyd yn hyn roedd y datganiad polisi i'w weld ar ddechrau Adran 3 (plant) ac Adran 4 (oedolion bregus ) yn y Llawlyfr.

Rydym bellach wedi cynhyrchu dogfen ar wahân a fydd yn eich galluogi i'w rannu a'i harddangos yn haws.

 Gallwch ddod o hyd i'r ddogfen yn yr adran BOLISIAU ar ein gwefan, ac yma fel PDF neu fel ddogfen Word fel y gallwch ychwanegu eich logo eich hun ayb.

 

Newydd am 2020  SIART DBS 

Siart llif gydag enghreifftiau i'ch helpu i wybod pwy sy angen gwiriad DBS cliciwch yma

siart llif 2

 Gorffennaf 2020

Gwaith rhithiol gyda phobl ifanc  ( virtual work with young people)  taflen gwybodaeth ac asesiad risg

Os ydych yn gweithio yn rhithiol gyda phobl ifanc yn ystod y tymor anodd hwn, darllenwch y daflen hon sy'n rhoi cyngor defnyddiol ac sy'n cynnwys asesiad risg enghreifftiol. Bydd hyn yn eich helpu i weithio yn y ffordd fwyaf diogel posibl, ystyried pob agwedd ar y gweithgaredd a gwneud yn siŵr bod mesurau diogelu priodol mewn lle i amddiffyn pawb. Mae hyn yn cyfeirio'n benodol at bobl ifanc ond efallai'n ddefnyddiol ar gyfer gweithgaredd pob oed.

20fed Mawrth 2020   Corona Virws COVID-19

Ni fydd Sian a Julie yn y swyddfa yn rheolaidd ar ôl heddiw ond byddant yn gweithio gartref. Byddwn yn gwirio e-byst, y negeseuon ffôn y swyddfa (01745 817584) a’r ffôn symudol 07957510346. Ond peidiwch â defnyddio'r rhifau hyn ar gyfer argyfyngau - ni allwn fod yn siŵr byddant yn cael negesion bob dydd.

Mae'r holl ffurflenni a thystysgrifau DBS sydd wedi cyrraedd y swyddfa erbyn heddiw wedi'u prosesu ond ni allwn warantu bydd ffurflenni DBS sy'n cyrraedd y swyddfa o 21ain o Fawrth ymlaen yn cael eu hanfon i'r DBS ar unwaith neu y bydd tystysgrif yn cael ei ddychwelyd mor fuan â’r arferol. Os ydych chi'n bwriadu dechrau gwirfoddoli yn ystod yr argyfwng hwn, gallwch ddangos eich tystysgrif i'ch arweinydd lleol yn hytrach na'i hanfon i'r swyddfa yn gyntaf (ond cofiwch byddwn ni dal angen ei weld maes o law).

CYNGOR A CHEFNOGAETH Mae hon yn gyfnod lle mae pobl yn tynnu at ei gilydd ac yn dangos arwyddion anhygoel o garedigrwydd a gofal yn ein cymunedau. Mae hefyd yn amser pan mae pobl yn bryderus iawn a dan straen gynyddol a gall ein pobl fregus fod mewn hyd yn oed mwy o berygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso oherwydd unigedd ac angen. Cofiwch fod cymorth a chyngor ar gael gan lawer o sefydliadau profiadol ac arbenigol. Mae rai ffynonellau o gefnogaeth yma <http://paneldiogelwch.org.uk/cy/cyngor-a-chefnogaeth> a hefyd mae'r Samariaid <https://www.samaritans.org/> ar gael i gynnig cyngor a chymorth i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd.

YMWELIADAU A CHEFNOGAETH GYMUNEDOL Yn sicr, nid wyf am danseilio na dibrisio'r llu o arwyddion o garedigrwydd anhygoel sy'n cael eu gweld o'n cwmpas ond gofynnwn ichi gadw egwyddorion diogelu sylfaenol mewn cof. Er bod yr egwyddorion hyn yn berthnasol i'r rhan fwyaf o weithgareddau cymunedol gyda'r rhai sy'n fregus, o safbwynt y Panel, mae'r cyfarwyddiadau yma  wedi'i anelu'n benodol at weithgareddau a wneir yn enw'r Eglwys/Capel yn hytrach na rhwng ffrindiau neu gymdogion.

Sicrhewch:

  • Bod gweithgareddau yn atebol ac wedi'u cynllunio'n ofalus. Sicrhewch fod gennych ganllawiau a gweithdrefnau lleol i amddiffyn pawb ( e.e.bod arweinydd Eglwys / blaenor / diacon yn ymwybodol o'r ymweliadau a gynlluniwyd  ar rhan yr egwlys a bod unrhyw bryderon yn cael eu hadrodd yn ôl)
  • Eich bod yn gwrando ar bobl ac yn eu trin ag urddas a pharch
  • Eich bod yn ymateb i bryderon ac adroddiadau o gam-drin (hyd yn oed os ydynt yn anodd i gredu neu os yw'r dioddefwr yn gofyn ichi ei gadw'n dawel neu'n gyfrinach).
  • Yr hyrwyddir ethos o dryloywder a didwylledd lle mae pawb yn teimlo'n rhydd i ofyn am help.
  • Eich bod yn ymwybodol o'ch diogelwch eich hun bob amser
  • Eich bod yn dilyn y canllawiau iechyd cyfredol gan y llywodraeth a chymryd pob cam posibl i osgoi trosglwyddo'r firws e.e. golchi dwylo a hunan ynysu pan fydd gennych chi neu'r rhai rydych chi'n byw gyda nhw unrhyw symptomau o gwbl.

PRYDERON Hyd yn oed mewn adeg o argyfwng cenedlaethol fel hyn mae'n rhaid i ni gofio y gall cam-drin ddigwydd ac mae rai yn gallu fod yn fwy agored i niwed oherwydd mwy o unigedd .Os oes gennych bryderon hyd yn oed os yw'n anodd credu, byddwch yn barod i: GYDNABOD y gall cam-drin digwydd YMATEB trwy GOFNODI eich pryderon ac ADRODD i'r Heddlu neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Gweler hefyd:   https://www.paneldiogelwch.org.uk/images/YMATEB_I_GONSYRN_CYM.pdf

Atgoffwch y rhai a allai fod yn derbyn ymweliadau a chefnogaeth:

 Na ddylent ganiatáu i ddieithriaid ddod i mewn i'w cartrefi, hyd yn oed os ydynt yn honni eu bod yn rhan o Gynllun Cymorth Cymunedol. Dylid gwirio hyn gyda’r cynllun yn gyntaf (ond heb ddefnyddio’r rhif ffôn a roddir gan eich ‘ymwelydd’)

I fod yn ddoeth wrth dalu am siopa. I beidio â thalu dieithryn neu berson newydd ymlaen llaw ac i geisio defnyddio bancio electronig lle bynnag y bo modd.

 

Gyda'n cofion caredig a diolch am eich holl waith caled a'ch caredigrwydd

Julie a Sian
 
Ewch i wefanau y 3 enwad am fwy o wybodaeth penodol ynglyn a gweithgaredday eglwysig.
http://www.buw.org.uk/170320-cyngor-coronafeirws-covid-19/
 
 

Darllenwch gwbodaeth gan y DBS ar ddiogelu tra gwrifoddoli yn y cymunded yn ystod y pandemic covid 19

https://www.gov.uk/government/publications/safeguarding-factsheet-community-volunteers-during-covid-19-outbreak/safeguarding-and-dbs-factsheet-faqs

 

 

Tachwedd 2017
Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol13 Tachwedd 2017Programme for Government - Healthcare

Wrth lansio’r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol, dywedodd y Gweinidog fod pobl sydd wedi cael eu cam-drin a'u hesgeuluso yn cael eu hannog i ddod ymlaen i rannu eu profiadau â'r awdurdodau priodol er mwyn i gymdeithas ddysgu ac adnabod yr arwyddion, ac atal achosion o gam-drin yn y dyfodol

Ionawr 2017

Mae'r Ymchiliad Annibynnol i Gan Drin Plant yn Rhywiol  wedi cyhoeddi ei adolygiad mewnol a'u rhaglen waith ar gyfer 2017 /18 cliciwch yma i ddarllen mwy.

Mae'r Comisiwn Elusennau  yn cyhoeddi y bydd ei strategaeth diogelu yn cael ei adolygu yn ystod 2016/17 Bydd diogelu hefyd yn flaenoriaeth. Mae gwaith yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn rhywiol yn debygol o gael goblygiadau sylweddol ar gyfer pob elusen sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed, ac i awdurdodau cyhoeddus gan gynnwys y Comisiwn. Byddwn yn cyfathrebu gwersi diogelu i ymddiriedolwyr a staff mewn elusennau ac ar yr un pryd, byddwn yn adnewyddu ein strategaeth ar ddiogelu drwy ein Grŵp Cynghori Diogelu.

 

Rhagfyr 2016

Hoffai Sian a Julie ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi a diolch am eich cefnogaeth a chydweithrediad yn ystod y flwyddyn.

Mae'r swyddfa ar gau tan 3dd o Ionawr 2017.

Os oes gennych ymholiad ynghylch cais DBS, cysylltwch â ni ym mis Ionawr neu anfon e-bost neu adael neges ar ein peiriant ateb, a chysylltwn â chi cyn gynted ag y gallwn yn y flwyddyn newydd.

Mewn argyfwng neu os oes gennych bryderon ynghylch unigolyn, ewch at y dudalen cyngor a chefnogaeth ein gwefan am ffynonellau cymorth neu cliciwch yma

Gallwch hefyd adael neges ar gyfer y Swyddog Diogelu ar ei ffôn symudol 07957 510346 ac mi fydd hi’n cysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.

Diolch yn fawr 

 

Medi 2015

Newid trefniadau gwiriadau DBS Baptist Union of Great Britain (BUGB) Tachwedd 2015 

Mae rhai eglwysi Bedyddwyr wedi derbyn ebost gan Stephen Boyo o CAS (Churches Agency for Safeguarding) i nodi bod y cyfrifoldeb am wiriadau DBS yn symud at Due Diligence Checks o fis Tachwedd ymlaen.

NODWCH OS GWELWCH YN DDA

Nid yw hyn yn effeithio eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru. Mae'r Panel Diogelwch Cydenwadol yn parhau i fod yn gyfrifol am brosesu eich gwiriadau DBS ac nid oes newid. Os nad ydych yn sicr cysylltwch â ni. Diolch

 

 

HYFFORDDIANT DIOGELU GRWPIAU BREGUS

Cliciwch ar y tab "hyfforddiant" i weld manylion  ein sesiynau hyfforddiant. 

Os hoffech drefnu sesiwn yn eich ardal chi - cysylltwch a'r swyddfa 

 

 

Gorffennaf 2014

I weld copi o'r POSTER "DIOGELU PAWB"  sy'n cyd fynd a'r llawlyfr newydd  cliciwch yma

Cysylltwch a ni os ydych eisiau derbyn copi A3 

Mae taflenni hefyd ar gael. Cysylltwch a ni am fwy o wybodaeth

 

 Mehefin 2014

Adolygiad o weithwyr / gwirfoddolwyr gyda grwpiau bregus

Rydym angen eich cymorth chi!

Mae'n bolisi presennol yr Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru i wneud gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (CRB cynt) bob 4 blynedd i rai sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion bregus. Mae'r broses hon yn cael ei wneud ar ran yr eglwysi gan y Panel Diogelwch Cydenwadol.

Yn anffodus, rydym wedi cael ymateb gwael iawn i wahoddiadau i unigolion a oedd angen yr ail -wiriad yma i gwblhau ffurflen DBSneu i roi gwybod i'r Panel eu bod nhw yn bellach ddim yn gweithio gyda grwpiau bregus. Mewn cyfarfod yn ddiweddar, cytunodd aelodau'r Panel Diogelwch Cydenwadol bod angen sefydlu rhestr gyfoes o'r rhai sy'n gweithio gyda phobl fregus o fewn ein heglwysi. Bydd hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar ddarparu'r gwiriadau a hyfforddiant ar gyfer y bobl gywir. Cytunwyd y dylid cynnal yr adolygiad hwn o weithwyr a gwirfoddolwyr yr eglwysi fel mater o frys drwy bob Henaduriaeth / Cyfundeb / Gymdeithas er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cydymffurfio â'n polisi a gweithdrefnau i ddiogelu pobol fregus.

Cliciwch y linc  i llawrlwytho y llythyr i'r egwlysi a'r  ffurflen ymateb

Diolch yn fawr am eich cydweithrediad

 

Ionawr 2014

Mae'r Panel Diogelwch Cydenwadol wedi lansio Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus newydd

 

Mae’r Llawlyfr newydd hwn yn cymryd lle “Er Mwyn ein Plant” ac mae’n cynnwys gwybodaeth am weithio gyda phlant, ieuenctid ac oedolion bregus.

Ei nod yw helpu eglwysi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru i recriwtio gweithwyr a gwirfoddolwyr a gweithio gyda grwpiau bregus mewn modd mwy diogel.

 

Anerchiad Rhian Huw Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru

Roedd Rhian Huws Williams wedi cytuno i siarad yn Lansiad y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus yn Ionawr 2014.

Yn anffodus doedd Rhian methu bod yn presennol ar y diwrnod ond rydym yn ddiolchgar iddi am rannu ei anerchiad gyda ni. Dyma ran o'r anerchiad:-

“Rydan ni wedi symud ymlaen o’r cyfnod pan lansiwyd Er Mwyn ein Plant, pan oedd rhyw bryder fod y capeli a’r eglwysi yn mynd dros ben llestri.  Bellach, gobeithio mae gwell dealltwriaeth o’r cyfrifoldeb i wneud yn siŵr fod pawb sydd yn gweithio yn enw’r capeli a’r eglwysi yn saff ac yn addas.  Hefyd sicrhau dealltwriaeth o’n cyfrifoldeb dros ein gilydd ac eraill yn ein cymunedau - mae hynny yn golygu ymwybyddiaeth o beth yw nodweddion bobl fregus, plant a phobl sydd yn cael niwed a sut i ymateb i hynny…Felly dylem weld y pecyn fel adnodd sydd yn ein hatgoffa a’n arfogi i fod yn ddinasyddion mwy effeithiol sydd yn byw a gweithredu'r egwyddorion.”

Rhian Huws Williams            Rhian Huw Williams

Cliciwch yma i ddarllen yr anerchiad llawn