Dewiswch eich iaith

Croeso i wefan y Panel Diogelu Cydenwadol.

CLICIWCH I CHWILIO Y WEFAN HON

Sefydlwyd y Panel Diogelwch Cydenwadol yn 2001 ac yn 2022 newidwyd ein henw i Panel Diogelu Cydenwadol. Mae’r Panel yn gwmni cyfyngedig ers 2009 a daw’r cyfarwyddwyr o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru - “y tri enwad”.

Rôl y Panel yw cefnogi a chynghori’r tri enwad ynghylch arferion diogelu yng nghyswllt eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc ac oedolion bregus. Mae Swyddog Diogelu y Panel yn gweithredu fel Swyddog Diogelu y tri enwad. 

Fel corff a gofrestrwyd gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), mae’r Panel yn gyfrifol am brosesu gwiriadau DBS ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr o fewn y tri enwad. Yn 2008 ehangodd i ddod yn ‘gorff cysgodol’ gan ei alluogi i gynnig gwiriadau datgelu ar gyfer sefydliadau ac asiantaethau nad ydynt yn aelodau o’r tri enwad. 

 

Poster a thaflen newydd 

Rydym yn falch i rannu ein poster A4 a thaflen gwybodaeth sut i ymateb i bryder 

Ar gael gan y swyddfa neu i llawr llwytho uchod.

 

poster cym 06 23

taflen 2 tudalen - sut i ymateb i bryder 

leaflet cym 3 24 tud 1leaflet cym 3 24 tud 2

 SUT MAE PETHAU?

Yn fwy penodol sut mae eich eglwys yn ei wneud o ran diogelu grwpiau bregus? Ydych chi wedi gweld y rhestr wirio hunan asesu newydd - yr eglwys mwy diogel 

Mae hyn yn un o'r adnoddau newydd sydd gennym fel rhan o ddiweddariadau'r Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus.

Y rhestr wirio yw Atodiad 10 yn Adran 6 o’r llawlyr ond gallwch hefyd ddod o hyd i'ch datganiad polisi ar ddiogelu yn adran 1, gwybodaeth bwysig ar gyfer ymddiriedolwyr  a chod ymddygiad newydd  ar gyfer wirfoddolwyr.

Maen nhw ar gael ar-lein nawr a byddwch hefyd yn derbyn copi papur o'r diweddariadau cyn bo hir.

Ewch i'r dudalen Llawlyfr Diogelu am fwy o wybodaeth