Sefydlwyd y Panel Diogelwch Cydenwadol yn 2001 pan gyflwynwyd ein polisi amddiffyn plant Er Mwyn ein Plant. Mae'r Panel yn gwmni nid er elw sy'n gyfyngedig trwy warant ers 2009. Daw'r cyfarwyddwyr o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru - y tri enwad.
Yn 2022 newidwyd ein henw i Panel Diogelu Cydenwadol.
Rôl y Panel yw cefnogi a chynghori’r tri enwad ynghylch arferion diogelu yng nghyswllt eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc ac oedolion bregus. Gwneir hyn drwy lunio a diweddaru'r polisi diogelu ynghyd a chynnig hyfforddiant a chymorth i gyrff lleol. Mae swyddog diogelu y Panel yw swyddog diogelu dynodedig y tri enwad.
Fel corff a gofrestrwyd gydar Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), mae'r Panel yn gyfrifol am brosesu gwiriadau DBS ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr. Yn 2008 ehangodd i ddod yn gorff cysgod gan ei alluogi i gynnig gwiriadau datgelu ar gyfer sefydliadau ac asiantaethau nad ydynt yn aelodau o'r tri enwad.
Mae'r Panel yn cyflogi swyddog diogelu a hyfforddiant rhan amser (25 awr) a swyddog gweinyddol rhan amser (28 awr).
Mae swyddogion y Panel yn trefnu cyfarfodydd Panel i drafod materion yn ymwneud ag arferion a pholisi diogelu ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch achosion a datgeliadau aneglur. Mae cynrychiolwyr o'r tri enwad yn aelodau o'r paneli hyn ac fe'u enwebwyd yn rhinwedd eu harbenigedd, diddordebau neu gefndir proffesiynol. Mae'r Panel yn glynu wrth god cyfrinachedd cadarn.
Staff y Panel
Swyddog Gweinyddol - Sian Jones
Swyddog Hyfforddiant a Diogelu - Julie Edwards
Swyddogion y Panel Diogelu Cydenwadol (Cwmni Cyfyngedig drwy Warant/6885389)
Cyfarwyddwyr:
Cadeirydd - Dwyryd Williams
Y Parchedig Judith Morris
Y Parchedig Dyfrig Rees
Nia W Williams
Y Parchedig Nan Wyn Powell-Davies
Aelodau Panel Diogelu Cydenwadol
Hywel Davies
Dr Owain Edwards / Sian Edwards
Alison Jones
Cliff Williams
Parchedig Irfon Roberts
Parchedig Simeon Baker
Parchedig Jill Hailey Harries