Croeso i'n tudalen Sul Diogelu
Mae'r Sul Diogelu 2023 ar 19/11/23.
Os wnaethoch chi fethu’r dyddiad llynedd does dim rhaid i chi ddisgwyl tan Fis Tachwedd eleni.
Beth am ddefnyddio'r adnoddau neu'r ffilm isod i godi ymwybyddiaeth am ddiogelu yn lleol cyn hynny?
Dyma adborth gan un capel a ddefnyddwyd y ffilm:
"Gwerthfawrogwyd y cyfle i ddefnyddio’r ffilm Gymraeg a baratowyd gan y Panel ar gyfer Sul Diogelu eleni. Roedd yn ffordd hwylus iawn o allu cadarnhau a phwysleisio pwysigrwydd diogelu yn gyffredinol oddi fewn i’r eglwys, a’r ffaith ei fod ar ffurf ffilm yn codi proffil diogelu mewn ffordd mwy effeithiol nag a fyddai wedi bod yn dod ar lafar gan un o arweinyddion yr eglwys."
Mi fydd adnoddau newydd ar gyfer 2023 yma bellach ymlaen yn y flwyddyn.
GWYBODAETH O SUL DIOGELU 2022
Eleni mae'r Panel Diogelu Cydenwadol yn eich annog i ymuno â miloedd o eglwysi ar draws y DU i dynnu sylw at bwysigrwydd amddiffyn pobl fregus fel rhan o Sul Diogelu, sef ymgyrch a gychwynnwyd gan yr elusen diogelu Cristnogol - Thirtyone:eight. Bydd Sul Diogelu yn cael ei chynnal eleni ar 20fed o Dachwedd 2022, (sy’n cyd-fynd â'r Wythnos Genedlaethol Diogelu Oedolion - 21 i 27 Tachwedd). Os nad yw'r dyddiad hwn yn gyfleus, beth am ddewis Dydd Sul arall, neu ddefnyddio rhan o’ch gwasanaeth arferol i godi ymwybyddiaeth am ddiogelu yn eich eglwys? Ar draws Prydain - cymerodd dros 2,000 o eglwysi ran llynedd, ac rydym yn gobeithio y bydd yna ragor eleni.
Sut i gymryd rhan eleni:
- Gallwch lawrlwytho ein trefn gwasanaeth Cymraeg neu Saesneg Noder: Dydy'r geiriau ar gyfer yr emyn olaf Bugail mwyn y plant a’r bregus ddim yn Caneuon Fydd. Dyma copi o'r geiriau
- Lawrlwytho ein ffilm fer yma i ddefnyddio yn eich gwasanaeth. Cysylltwch â ni os dach chi angen mwy o wybodaeth neu gydag unrhyw gwestiynau.
- Gallwch gofrestru gyda thirtyoneeight.org a lawrlwytho adnoddau am ddim, gan gynnwys adnoddau Cymraeg a dewis eang o syniadau a gweithgareddau ar gyfer plant.
- Gallwch gweld fideo gweddi gan Thirty one eight yma Safeguarding Sunday prayer video (Saesneg yn unig). Dyma'r tro cyntaf i gymaint o eglwysi ar draws Prydain dod at eu gilydd ar gyfer Sul Diolgelu.
- Mi fydden ni wrth ein boddau cael gwybod os ydych yn bwriadu cynnal unrhyw weithgareddau Sul Diogelu. Cysylltwch â ni i adael i ni wybod:
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Dywedodd Justin Humphreys, Cyd-Brif Weithredwr Thirtyone:eight: "Ni allwn anwybyddu'r camdriniaeth sydd wedi digwydd o fewn yr Eglwys... mae Sul Diogelu yn gyfle i daflu goleuni ar y gwaith mae cymaint o eglwysi'n ei wneud i greu mannau o addoli yn fwy diogel. Rhaid i ni beidio anghofio bod amddiffyn pobl fregus wrth wraidd y neges Gristnogol o gyfiawnder a gobaith. Rwyf am ddiolch i bawb sy'n gwneud y gwaith hanfodol hwn ac i rai sy’n gymryd rhan yn yr ymgyrch eleni i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelu yn ein heglwysi a'n cymunedau."