CADW PLANT YN DDIOGEL AR LEIN
mae'r mwyafrif o linciau isod yn arwain at wefannau allanol iaith Saesneg,
Mae "NSPCC Learning" wedi cyhoeddi gwybodaeth am gadw plant yn ddiogel ar-lein . Maent wedi casglu adnoddau ynghyd (gwybodaeth wedi'i diweddaru ar gyfathrebu â phlant trwy'r cyfryngau cymdeithasol, rhedeg gwasanaethau ar-lein, awgrymiadau i rieni a gofalwyr a chyngor i'w rhannu â phlant) i'ch helpu i ddeall a delio â'r risgiau y mae plant yn wynebu ar-lein.
Mae gan CEOP becynnau gweithgaredd a chyngor ar sut i gadw plant o bob oed yn ddiogel ar-lein, gan gynnwys tra chwarae gemau, rhannu delweddau, defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Mae'r gweithgareddau diogelwch syml, 15 munud ar-lein hyn ar gael yma
Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch ar- lein neu os ydych yn poeni am sefyllfa ar lein ewch i'r wefan CEOP neu i'r NSPCC
Dewch i gael hwyl gyda'r teulu cyfan a darganfod faint mae'ch plentyn yn ei wybod am gadw'n ddiogel ar-lein gyda'n cwis diogelwch ar-lein. Mae yna ddau fersiwn ar gael, un ar gyfer plant dan 13 oed ac un ar gyfer pobl dros 13 oed. Ciciwch yma am cwis ac adnoddau defnyddiol.
Siarad â phlant am gam-drin ar-lein
Mae'r Comisiynydd Plant Lloegr wedi cyhoeddi dogfen ddefnyddiol i helpu rhieni i drafod cam-drin ar-lein gyda'u plant:cco_talking_to_your_child_about_online_sexual_harassment_a-guide_for_parents_2021.pdf (childrenscommissioner.gov.uk)
"My advice to parents and carers is to create the culture before the crisis. Children have told us they want their mums and dads to create a safe, judgment‑free space for them to talk about these issues. It’s better to do that before you hit a problem rather than trying to create that mood while you’re dealing with one." Dame Rachel de Souza