Rydym yn cynnig yr hyfforddiant diogelu isod :
1. LEVEL 1: (ar gyfer gwirfoddolwyr)
Mae ein cwrs lefel 1 yn cymryd rhwng 2 a 2.5 awr ac mae'n cael ei gyflwyno gan ein swyddog diogelu neu aelod o'n tîm o hyfforddwyr gwirfoddol. Gall hyn fod wyneb yn wyneb neu rithiol (ZOOM) yn dibynnu ar leoliad, niferoedd ac argaeledd hyfforddwr. Cysylltwch â'r swyddfa i drefnu sesiwn neu archebwch eich lle ar rai isod.
NODIR Y SESIYNAU PRESENNOL ISOD ond
Noder: mae'r un cynnwys ym mhob sesiwn felly archebwch dyddiad sy'n gyfleus i chi:
7/1/2026 Nos Fercher Lefel 1 Saesneg dros ZOOM 6.30 tan 9.00 y.h archebwch eich lle yma (English languarge session)
12/1/2026 Nos Lun Lefel 1 Cymraeg dros ZOOM 6.30 tan 9.00 y.h archebwch eich lle yma
27/1/2026 Nos Fawrth Lefel 1 Cymraeg dros ZOOM 7.00tan 9.30 y.h archebwch eich lle yma (trefnwyd gan Ebeneser Caerdydd ond croeso i bawb)
Yn anffodus bu'n rhaid i ni ganslo nifer o sesiynau lefel 1 yn ddiweddar oherwydd bod dim neu ddiffyg archebion.
Rydym yn awyddus i drefnu mwy o sesiynau ond eisiau dod o hyd i amseroedd a dyddiadau sy'n addas i gynifer â phosibl.Felly plis cysylltwch â'r swyddfa'n uniongyrchol trwy ffôn neu
2. LEFEL 2: gweinidogion ac arweinwyr
Mae'r sesiynau hyfforddiant diogelu grwpiau bregus, lefel 2 ar gyfer gweinidogion a staff. Maen para diwrnod neu dau fore.Mae‘n orfodol i bob gweinidog o'r tri enwad mynychu lefel 2 o leiaf bob 4 blynedd. Maent i gyd yn rhithiol dros ZOOM.
Sesiwn iaith Gymraeg Lefel 2 9:15AM - 12:30 (Cwrs wedi'i rannu dros 2 fore - bydd angen mynychu'r ddwy sesiwn) Archebwch nawr
3. CYDLYNYDD DIOGELU LLEOL 
Bydd y sesiwn 2.5 awr hon yn canolbwyntio ar rôl cydlynydd diogelu a'r elfennau ymarferol y dylai’r eglwys leol rhoi ar waith i sicrhau ei bod nhw’n diogelu grwpiau bregus yn effeithiol. Bydd y sesiwn yn cynnwys polisi, recriwtio mwy diogel a DBS a chadw cofnodion. Ni fydd ffocws ar arwyddion a symptomau o gam-drin ac esgeulustod. Mae hyn yn cael ei drafod yn fanylach yn y sesiynau lefel 1 a 2.
10/12/25 Bore Mercher ( Saesneg - zoom ) 10-12.30 book here
21/2/2026 Dydd Sadwrn (Saesneg - zoom) 9.30-12pm archebwch yma
Os hoffech fynychu cwrs cydlynydd ond bod y dyddiadau uchod yn anghyfleus, gadewch i ni wybod trwy anfon ebost at
Os hoffech mynychu cwrs Cymraeg gadewch ini wybod. Nid ydym wedi cael digon o bobl i cynnal cwrs Cymraeg yn ddiweddar.
Os hoffech gwirio ffurflenni DBS yn lleol, bydd angen mynychu y cwrs fer yma i fynd dros y broses a'i sicrhau ein bod yn cydymffufrio a cod ymddygiad y DBS.
HYFFORDDIANT DIOGELU AR GYFER YMDDIRIEDOLWYR: Nid ydym yn cynnig hyfforddiant penodol ar gyfer ymddiriedolwyr elusen - er hynny bydd y cynnwys sydd yn y seisynau uchod yn berthnasol iddynt.
Mae swyddog diogelu y Panel yn argymell yr hyfforddiant diogelu canlynol i ymddiriedolwyr elusen. Mae thirtyone eight yn cynnig sesiwn 2 awr ar-lein (£57) ac mae'r NSPCC yn rhedeg cwrs e-dysgu am £25


