Dewiswch eich iaith

Mae’r canllawiau a’r cyngor yn y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus yn sail i bolisi mabwysiedig Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar gyfer gweithio gyda grwpiau bregus. Mae'n cynnwys canllawiau arfer da ar weithio gyda phlant ac oedolion bregus ac yn amlinellu beth i'w wneud os oes gennych bryder am unigolyn neu sefyllfa.

Rydym yn falch o rannu fersiwn electronic o’r llawlyfr 2022 sy'n cynnwys rhai adrannau newydd a ddiweddarwyd. Gweler y nodyn isod yn ynglŷn â'r diweddariadau papur.

I lawr lwytho neu weld copi cyfan o'r llawlyfr 2022 cliciwch ar y llun neu'r ddolen yma: Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus neu gallwch ddarllen yr adrannau unigol isod:

 
Adran 2: Recriwtio a dethol mwy diogel (gan gynnwys gwybodaeth gwiriadau DBS a siartiau llif (adran newydd)
 
Adran 3: Gweithio gyda phlant a phobl ifanc a sut i ymateb i bryderon (heb newid)
 
Adran 4: Gweithio gydag oedolion bregus a sut i ymateb i bryderon (heb newid)
 
Adran 5: Gofal Bugeiliol (newidiadau i'r fanylion cyswllt)
 
Adran 6 Atodiadau a gwybodaeth i’ch cefnogi i weithredu’r polisi (newydd – 1, 2a, 2  3 4, 6 7, 8 ,9, 10 - gweler isod am fyw o wybodaeth)
 
Adran 7 Ffurflenni i’ch cefnogi i weithredu’r polisi  ( taflen gwybodaeth GDPR newydd)
 
Diweddariadau ers yr argraffiad 2022 o'r Llawlyfr 

Atodiadau 3 Deddfwriaeth perthnasol:   addaswyd i gynnwys diwigiad i'r Ddeddf Troseddau Rhyw 2003 

 

DIWEDDARIADAU I'R LLAWLYFR  -  2022/23  Erbyn hyn dylai pob eglwys fod wedi derbyn copi o'r diweddariadau i ychwanegu at y ffeil wreiddiol.

(Mae gennym rai copïau o'r ffeil gyfan os oes angen - ond  ailddefnyddiwch eich ffeil presennol os yn bosib i leihau gwastraff ac arbed adnoddau).

Pan fyddwch yn derbyn eich pecyn:

  1. tynnwch yr hen adrannau  1 a  2 a'u disodli gyda’r adrannau newydd sy’n cynnwys eich dogfen bolisi diogelu eglwys leol newydd a gwybodaeth newydd am recriwtio a’r proses DBS.  
  2. Cadwch yr adrannau 3, 4  gwreiddiol. 
  3. tynnu hen adran 5 ac adio yr un newydd
  4. Tynnwch hen adran 6 er mwyn adio  adran newydd sy'n cynnwys 7 atodiadiau  newydd . Mae hyn yn cynnwys: rhestr  diweddarwyd o ffynonellau gwybodaeth a chefnogaeth, cod ymddygiad newydd, yn seiliedig ar ein datganiad o fwriad (2a), gwybodaeth am gyfrifoldebau diogelu ymddiriedolwyr elusen (7), canllawiau newydd ar dynnu lluniau o blant (8), rhestr wirio i'ch helpu i asesu sefyllfa diogelu eich eglwys (10).
  5. Hefyd ychwanegwch y tudalen cynnwys a  daflen gwybodaeth GDPR i adran 7  ond cadwch yr ffurflennni . DIOLCH

 

DATGANIAD POLISI

Fel  eglwys rydym yn llwyr ymroddedig i ddiogelu lles ein haelodau a’r rhai a ymddiriedwyd i’n gofal.

Mae’r datganiad polisi hwn, ynghyd â’r canllawiau a’r gweithdrefnau a amlinellir yn y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus yn ffurfio ein polisi a’n dulliau gweithredu.

Rydym yn cydnabod y gall plant, pobl ifanc ac oedolion fod yn destun camdriniaeth ac esgeulustod; rydym felly’n cydnabod ei fod yn ddyletswydd arnom ni i sicrhau eu diogelwch yn y gweithgareddau a gynhelir yn enw’r eglwys hon. Ein amcan yw darparu amgylchedd gofalgar a byddwn yn ymateb yn sensitif ac yn ddi-oed i unrhyw bryderon. Bydd aelodau’r eglwys, staff cyflogedig a’r gwirfoddolwyr yn barchus o bawb yn y lle hwn, yn hyrwyddo ethos o wrando ar blant a phobl bregus, a bydd eu hymddygiad yn adlewyrchu egwyddorion yr Eglwys Gristnogol.

Bydd yr eglwys yn gofalu am blant, pobl ifanc ac oedolion bregus, ac yn eu diogelu drwy weithredu’n unol â’r ymarfer da canlynol:

o Ymateb priodol i bryderon a honiadau. (Adrannau 3.2 a 4.2 o’r Llawlyfr) Rydym yn ymrwymo, yn unol â’n polisi a chanllawiau, i ymateb yn ddi-oed pan fydd camdriniaeth yn cael ei amau neu unrhyw bryderon neu honiadau eraill yn cael eu dwyn i’n sylw. Os yw’r Awdurdod Lleol neu’r Heddlu’n cynnal ymchwiliad byddwn yn cydweithio â nhw.

o Proses recriwtio mwy diogel ar gyfer ein gweithwyr a’n gwirfoddolwyr. (Adran 2 o’r Llawlyfr) Bydd yn cynnwys gwiriadau DBS pob 4 blynedd ar gyfer pob gweithiwr, arweinydd ac ymddiriedolwr perthnasol.

o Hyfforddi a chefnogi ein gweithwyr a’n gwirfoddolwyr. Hyn er mwyn eu cynorthwyo â’u gwaith ac i sicrhau diogelwch y plant a’r bobl bregus fydd yn eu gofal.

o Hyrwyddo arfer da. (Adrannau 3.1 a 4.1 o’r Llawlyfr) Hyn i sicrhau amgylchedd ddiogel.

Datganiad Polisi Eglwysi Unigol ar Ddiogelu 

polisi eg unigol22Rydym yn falch i rannu'r datganiad polisi newydd hwn i’ch galluogi fel eglwys i ddatgan yn glir eich ymrwymiad ynghylch diogelu pobl fregus. Mae hyn yn unol â ymarfer gorau ac yn ofynnol gan lawer o gwmnïau yswiriant.

Hyd yn hyn roedd y datganiad polisi i'w weld ar ddechrau Adran 3 (plant) ac Adran 4 (oedolion bregus ) yn y llawlyfr. Rydym bellach wedi cynhyrchu dogfen ar wahân a fydd yn eich galluogi i'w rhannu a'i harddangos yn haws. Gallwch ddod o hyd i'r ddogfen yma fel PDF neu fel dogfen Word fel y gallwch ychwanegu eich logo eich hun ayb. 
 

Ymddiriedolwyr elusen a’u cyfrifoldebau diogelu :  Darllenwch y daflen gwybodaeth newydd ( atodiad 7 yn y diweddariadau 2022 o’r llawlyfr) 

 

 

 

Poster a thaflen newydd 2023

Rydym yn falch i rannu ein poster A4 a thaflen gwybodaeth sut i ymateb i bryder maint A6 

Ar gael gan y swyddfa neu i llawr llwytho uchod.

poster cym 06 23                   leaflet cym 3 24 tud 1                            

Mae taflen gwybodaeth gyffredinol (2014)am y Llawlyfr a chyfrifoldebau diogelu ar gael  Cysylltwch a ni i dderbyn copiau.