Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (enw newydd y CRB a ISA) - tudalen saesneg
NSPCC Mae'r wefan yma yn ffynhonell cynhwysfar iawn gyda gwybodaeth ar bob elfen o ddiogelu plant ynglŷd â chyngor ar sut i ymateb i bryderon (gwefan saesneg)
Gwybodaeth angenrheidiol :
Diogelu ac amddiffyn pobl ar gyfer elusennau ac ymddiriedolwyr - GOV.UK (www.gov.uk)
Er enghraifft, dylai elusen sy'n gweithio gyda phlant:
gael polisi amddiffyn plant - datganiad sy'n esbonio sut y mae'r elusen yn amddiffyn plant rhag niwed
rhoi prosesau amddiffyn plant yn eu lle sy'n rhoi canllawiau clir, gam wrth gam, os yw cam-drin yn cael ei adnabod
cynnal y lefel briodol o wiriadau DBS ar staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr (yn dibynnu a ydynt yn dod i gysylltiad a phlant)
cael polisiau a gweithdrefnau i helpu i atal cam-drin rhag digwydd yn y lle cyntaf, megis sicrhau bod gweithwyr sy'n oedolion ddim yn cael cysylltiad un i un a phobl ifanc
Comisiwn Elusennau a diogelu cliciwch yma i weld gwybodaeth pwysig am eich cyfrifoldebau fel ymddiriedolwyr.
thirtyone eight (Churches Child Protection Advisory Servce (CCPAS) yn flaenorol) - Elusen Gristnogol annibynnol sy'n cynnig cyngor, cefnogaeth, hyfforddiant ac adnoddau proffesiynol cynhwysfawr ar gyfer diogelu grwpiau bregus, ac i'r rhai sy'n dioddef oherwydd camdriniaeth. (Tudalen saesneg yn unig)
NSPCC -sgwrsiau syml i gadw eich plentyn yn ddiogel rhag cael ei cam drin Gwefan Saesneg gyda linc i posteri a thaflenni cymraeg
Plant ar lein Am fwy o wybodaeth am diogelwch ar lein i blant neu os ydych yn poeni am sefyllfa ar lein - ewch i wefan CEOP
neu NSPCC
Comisiynydd Plant Cymru
Ewch i'r wefan am wybodaeth am hawliau plant a llawer o wybodaeth a gwaith ymchwil ynglŷn â materion plant.
Mae yna dîm ymchwiliadau a chyngor ar gael i'ch helpu : https://www.complantcymru.org.uk/amdanon-ni/ymchwiliadau-a-chyngor/ investigation and advice helpline
Comisiynydd Pobl Hyn
Gwarchod a hybu hawliau pobl hŷn yng Nghymru
Ewch i'r wefanam fwy o wybodaeth
Maent hefyd yn cynnig cymorth a chefnogaeth
Gwybodaeth Defnyddiol
Rhain yw’r Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol i Gymru. Maent yn rhoi manylion am swyddogaethau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth ac esgeulustod..
Beth yw eu pwrpas: Mae’r Gweithdrefnau yn helpu ymarferwyr i gymhwyso deddfwriaeth a chanllawiau statudol ac (Adran 7 Cyfrolau 5 a 6 ar drin achosion unigol) i’w harfer.
I bwy y maent : Bwriedir i’r gweithdrefnau hyn fod yn ganllaw i arferion diogelu pawb a gyflogir yn y sector statudol, trydydd (gwirfoddol) a phreifat mewn iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, yr heddlu, cyfiawnder a gwasanaethau eraill. Maent yn gymwys i’r holl reolwyr sy’n gweithio yng Nghymru - boed wedi eu cyflogi gan asiantaeth a ddatganolwyd neu beidio.
Clwb gwyliau - oes angen cofrestru gyda Arolygaeth Gofal Cymru
Mae gweithgareddau megis Clybiau Gwyliau i blant dan 12 oed angen cael eu cofrestru yn ffurfiol os ydynt yn cyrraedd meini prawf gofal plant rheoledig / gofal dydd.
Yn gyffredinol, nid oes angen cofrestru gweithgareddau ar gyfer plant dros 12 oed na gweithgareddau ar gyfer plant dan 12 oed a ddarperir am lai na 2 awr y dydd neu lai na 6 diwrnod y flwyddyn.Fodd bynnag, dylech gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru i roi gwybod iddynt am y gweithgaredd i sicrhau nad oes angen cofrestru eich clwb.
Mae’n drosedd i beidio cofrestru gweithgareddau perthnasol.