Croeso i wefan y Panel Diogelu Cydenwadol.
CLICIWCH I CHWILIO Y WEFAN HON
Sefydlwyd y Panel Diogelwch Cydenwadol yn 2001 ac yn 2022 newidwyd ein henw i Panel Diogelu Cydenwadol.
Rôl y Panel yw cefnogi a chynghori r Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru "y tri enwad" ynghylch arferion diogelu yng nghyswllt eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc ac oedolion bregus gan gynnwys hyfforddiant diogelu, gwaith achos a chyngor a polisi a gweithdrefnau. Mae Swyddog Diogelu y Panel yn gweithredu fel Swyddog Diogelu dynodedig y tri enwad.
Fel corff a gofrestrwyd gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), mae’r Panel yn gyfrifol am brosesu gwiriadau DBS ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr o fewn y tri enwad.
Mae’r Panel yn gwmni cyfyngedig ers 2009 gyda chyfarwyddwyr o “y tri enwad”.
SUT MAE PETHAU?
Yn fwy penodol sut mae eich eglwys yn ei wneud o ran diogelu grwpiau bregus?
Ydych chi wedi gweld y rhestr wirio hunan asesu newydd - yr eglwys mwy diogel Mae hyn yn un o'r adnoddau newydd sydd gennym fel rhan o ddiweddariadau'r Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus.
Y rhestr wirio yw Atodiad 10 yn Adran 6 o’r llawlyr ond gallwch hefyd ddod o hyd i'ch datganiad polisi ar ddiogelu yn adran 1, gwybodaeth bwysig ar gyfer ymddiriedolwyr a chod ymddygiad newydd ar gyfer wirfoddolwyr.
Maen nhw ar gael ar-lein nawr a byddwch hefyd yn derbyn copi papur o'r diweddariadau cyn bo hir.
Ewch i'r dudalen Llawlyfr Diogelu am fwy o wybodaeth
MAE HYFFORDDIANT DIOGELU yn rhan allweddol o'n arferion diogelu. Cliciwch ar y lluniau am fwy o wybodaeth:
Poster a thaflen newydd
Rydym yn falch i rannu ein poster A4 a thaflen gwybodaeth sut i ymateb i bryder Ar gael gan y swyddfa neu i llawr llwytho uchod.
taflen 2 tudalen - sut i ymateb i bryder