Dewiswch eich iaith

Gweler hefyd Adran 2 o'r Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus) Cofiwch mai dim ond un rhan o'r Broses Recriwtio Fwy Diogel yw'r gwiriad DBS.

SGROLIWCH I LAWR AM FWY O FANYLION AM BWY SY ANGEN GWNEUD DBS

Mae gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cynorthwyo sefydliadau i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel drwy eu galluogi i wirio gwybodaeth am unigolion sy'n cael ei ddal ar gofnodion cenedlaethol a lleol yr heddlu a rhestrau gwahardd cyfrinachol a gedwir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

 DATGANIAD PREIFATRWYDD PWYSIGEr mwyn cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR UK), rydym wedi cynhyrchu Datganiad Preifatrwydd y gallwch ei ddarllen yma. Datganiad Preifatrwydd y Panel ( gwiriadau DBS)
Mae hyn yn esbonio sut yr ydym yn casglu a defnyddio'ch gwybodaeth i gynnal Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 
Rydyn ni'n trosglwyddo'ch ffurflen ymlaen i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i gael ei brosesu a gallwch ddarllen ei Datganiadau Preifatrwydd yma:

 www.gov.uk/government/publications/standard-and-enhanced-dbs-check-privacy-policy gan gynnwys fersiwn Cymraeg.

Mae'n anghenrheidiol i gadarnahau bod chi wedi darllen y polisiau preifatrwydd cyn parhau gyda'ch cais. Nodwch ar y ffurflen gwiriwr neu Jotform 1 eich bod wedi darllen a deall sut bydd y panel a DBS yn trin eich data. os gwelwch yn dda

 SUT I WNEUD CAIS AM WIRIAD DBS TRWY'R PANEL DIOGELU: 

Cliciwch yma i weld ein proses ymgeisio DBS papur.  Ochr yn ochr â'r llwybr papur yma rydym wedi dechrau peilot newydd i gynnig gwiriadau DBS ar-lein mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd  ers Mai 2023 Gweler nodyn am yr iaith Cymraeg yma .

Sicrhewch eich bod wedi darllen Datganiad Preifatrwydd Y DBS a'r Panel ( gwiriadau DBS) ac wedi ticio'r blwch priodol ar y Jotform neu ffurflen gwiriwr

 Rhan 1: 

 A.  YN ELECTRONIG - AR LEIN:  Cwblhewch Ffurflen 1 jotform ar lein  Noder:  byddwch yn derbyn dolen a chyfrinair i gwblhau eich ffurflen ar lein gyda Chyngor Gwynedd. Cwblhewch eich ffurflen yn brydlon os gwelwch yn dda. Byddwch yn derbyn e-bost atgoffa bob 5 diwrnod hyd nes y bydd y broses wedi'i chwblhau.  Bydd dal angen i chi gwrdd â gwiriwr y Panel i wirio'ch dogfennau adnabod.

B. FFURFLEN PAPUR DBS:   cysylltwch a'r swyddfa  neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.  a bydd ffurflen(ni) gais papur DBS yn cael ei hanfon i'ch cyfeiriad post neu at y cyswllt diogelu/ ysgrifennydd eich eglwys 

 

Rhan 2: 

GWIRIO HUNANIAETH WYNEB YN WYNEB YN RHAN OFYNNOL O BOB GWIRIAD DBS:

Gwirio dogfennau:  Yn unol a chod ymddygiad DBS bydd angen i bob ymgeisydd DBS gwrdd wyneb yn wyneb â Gwiriwr er mwyn dilysu ei hunaniaeth gyda o leiaf 3 dogfen megis pasbort, trwydded yrru ayyb. Am fanylion llawn am y broses ewch i wefan y DBS  yma.   Neu  yma am rhestr o ddogfennau ID derbyniol.

Mae rhestr o'n Gwirwyr gwirfoddol ar gael gan y panel. Mae llawer o weinidogion a staff wedi'u hyfforddi i gyflawni'r rôl hon felly gofynnwch yn eich eglwys leol yn gyntaf.

Os ydych eisoes wedi llenwi JotForm 1 ac wedi cwblhau eich cais DBS ar-lein, dylai'r gwiriwr lenwi  Ffurflen 2 (word doc) neu Ffurflen 2 PDF i nodi manylion y broses wirio hunaniaeth.

Os ydych wedi cwblhau ffurflen gais DBS bapur (ac nad ydych wedi cwblhau Jotform 1) bydd angen i'r gwiriwr hefyd ofyn rhai cwestiynau am eich rôl yn ogystal â'r broses gwirio hunaniaeth a dylent lenwi'r FFURFLEN GWIRIO y Panel a'i hanfon at swyddfa'r Panel gyda'r ffurflen DBS pinc.

  

EICH TYSTYSGRIF DBS:

Byddwch yn derbyn tystysgrif papur gan y DBS ar ddiwedd y ddau lwybr.

Ni fydd angen i'r rhai sy'n dewis llwybr A (electronig)  anfon eu tystysgrif papur i'r swyddfa., oni bai ein bod yn gofyn  yn penodol i'w gweld.

I ymgeiswyr sy'n dewis llwybr B (ffurflen bapur), bydd rhaid anfon eich tystysgrif i swyddfa'r Panel. Oni bai eich bod yn cwblhau'r cam olaf hwn, ni allwn ddilysu bod gennych wiriad DBS ar gyfer eich rôl.  Byddwn yn dychwelyd y tystysgrif atoch a rhoi gwybod i'ch eglwys fod y broses wedi'i chwblhau. 

Bydd swyddfa’r panel yn hysbysu’r eglwys leol pan fydd gwiriad DBS ar gyfer unigolyn wedi'i gwblhau. Dylai'r eglwys gadw cofnod cyfrinachol o statws DBS eu gwirfoddolwyr fel y gallant sicrhau bod adnewyddiadau'n cael eu cwblhau'n brydlon a phob gwirfoddolwr newydd yn cwblhau'r broses. Ni ddylai'r eglwys gadw unrhyw dystysgrifau DBS.

 

ADNEWYDDU DBS A'R GWASANAETH DIWEDDARU:

Dylid ailadrodd gwiriad bob 4 blynedd.

Os ydych wedi gwneud y rôl am gyfnod, bydd eich cydlynydd diogelu neu ysgrifennydd yr eglwys yn gallu dweud wrthych pan fydd angen eich gwiriad nesaf.

Os ydych chi wedi cofrestru gyda gwasanaeth diweddaru’r DBS ac mae’n 4 blynedd ers i chi wneud gwiriad gyda'r panel, gallwch gwblhau eich adnewyddiad yn gyflym heb ffurflen gais DBS newydd. Fel arfer, gallwn wirio'ch DBS ar-lein mewn mater o funudau.

Darllenwch ein taflen gwybodaeth am fwy o wybodaeth neu llenwch y ffurflen hon a'i hanfon i'n swyddfa ynghyd â'ch tystysgrif wreiddiol neu cysylltwch â ni 

Nodwch : Os yw eich tanysgrifiad gwasanaeth diweddaru wedi darfod, os ydych wedi colli eich tystysgrif wreiddiol neu os nad yw eich rôl o fewn yr eglwys ar yr un lefel neu gyda'r un grŵp â'r dystysgrif wreiddiol efallai y bydd angen i ni ofyn i chi gwblhau ffurflen newydd.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu ewch i gwasanaeth diweddaru DBS

PWY SYDD ANGEN GWNEUD GWIRIAD DBS a BETH YW EIN POLISI?:

Pan fo rôl yn gymwys i gael gwiriad DBS, ein polisi yw y dylid gwneud un. Mae hyn yn unol ag egwyddorion arfer gorau a chanllawiau'r Comisiwn Elusennau. Ni allwn wneud gwiriad 'rhag ofn' i rywun benderfynu gweithio gyda grwpiau bregus yn y dyfodol.  Mae'n rhaid i ni allu dilysu bod pob rôl yn gymwys cyn cyflwyno’r cais i'r DBS.

Edrychwch ar y siartiau llif  ac enghreifftiau i weld pwy sy'n gymwys ac angen gwneud gwiriad DBS cliciwch yma neu darllenwch ein taflen Polisi a Chrynodeb o'r Daflen Cymhwysedd yma.

Mae'r wybodaeth hon hefyd yn adran 2 o  Lawlyfr 2022

dal yn ansicr? - edrychwch ar ein rhestrau gwirio isod...

Rhestr wirio ar gyfer cymhwyster gwirio DBS ar gyfer y rhai sy'n gweithio gydag Oedolion Bregus yma

Rhestr wirio ar gyfer cymhwyster gwirio DBS ar gyfer y rhai sy'n gweithio/gwirfoddoli gyda phlant yma

Goruchwyliaeth - er mwyn penderfynu os yw rôl gyda phlant yn weithgaredd a reoleiddir neu beidio mae'n hanfodol canfod os oes goruchwyliaeth ddigonol.  Cliciwch yma i ddarllen y canllawiau statudol ar oruchwylio.

Ymddiriedolwyr: Os yw ymddiriedolwr yn ymwneud â gweithgarwch a reoleiddir ac yn gweithio'n agos gyda grwpiau bregus neu'n rheoli neu'n goruchwylio'r rhai sy'n gwneud y gwaith, bydd angen iddynt wneud gwiriad manwl DBS gyda gwiriad o'r rhestrau gwahardd oherwydd natur y gwaith, nid oherwydd y teitl 'ymddiriedolwr'. Fodd bynnag mae pob ymddiriedolwr, sy'n ymwneud â rhedeg eglwys sy'n darparu gweithgareddau i blant neu oedolion bregus hefyd yn gymwys i wneud gwiriad manwl (heb archwiliad o'r rhestrau gwahardd) hyd yn oed os nad ydynt yn gweithio'n uniongyrchol gyda grwpiau bregus.  Mae hyn oherwydd bod eglwys sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion bregus yn cael ei ystyried yn "elusen i grwpiau bregus" at ddibenion gwirio DBS gyda’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y gwaith.

 

TROSEDDAU NEU RYBUDDION:

Mae llawer o fân droseddau a hen rhybuddion yn cael eu hidlo ar ol 11 mlynedd (5.5 mlynedd os cyflawnwyd y drosedd o dan 18 oed) ac felly ni fyddant yn ymddangos ar dystysgrif DBS ac nid oes angen eu datgelu ar ôl yr amser a nodwyd. Cafodd y rheolau hidlo hyn eu diweddaru ym mis Tachwedd 2020.  Yn gyffredinol mae mân euogfarnau'n cael eu hidlo ar ôl 11 mlynedd, ond ni fydd troseddau difrifol a threisgar (troseddau penodedig) a rhai sy'n arwain at ddedfryd o garchar byth yn cael eu hidlo. Gweler y rheolau hidlo newydd ar gyfer tystysgrifau DBS (o 28 Tachwedd 2020 ymlaen

Gweler y cyfrifiannell datgelu UNLOCK i weithio allan os oes angen datgelu eich euogfarn. (Mae (UNLOCK yn elusen genedlaethol annibynnol sy'n rhoi llais a chefnogaeth i bobl gydag euogfarnau)

Gweler hefyd 2.7 yn y Llawlyfr

 

 Gofynnir i ni'n aml... A allaf ddefnyddio tystysgrif DBS sydd gen i o rôl arall?

" Athro ydw i - dwi wedi gwneud DBS yn gwaith, siawns nad oes angen i mi wneud un arall yn yr eglwys/capel"

Ateb " Wel mae'n dibynnu. Oni bai eich bod wedi ymuno â gwasanaeth diweddaru'r DBS mae'r un rheol yn parhau. Mae angen gwiriad DBS ar gyfer pob sefydliad rydych chi'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda."

Mae llawer o bobl yn credu bod un dystysgrif DBS yn ddigon ar gyfer yr holl waith mae nhw'n ei wneud gyda grwpiau bregus ac ni fydd angen iddyn nhw wneud un arall byth. Yn anffodus nid yw'r wybodaeth hon yn gwbl gywir. Nid yw tystysgrif DBS yn gludadwy yn awtomatig ond ers 2013 mae wedi bod yn bosibl ailddefnyddio tystysgrif os yw'r ymgeisydd wedi cofrestru gyda'r DBS Update service o fewn 30 diwrnod o dderbyn eu tystysgrif flaenorol.

Darllenwch ddaflen wybodaeth y Panel yma

Er mwyn ail-ddefnyddio eich tystysgrif bresennol ar gyfer eich gwaith eglwys bydd angen i chi fod wedi cofrestru ar-lein gyda'r gwasanaeth diweddaru. Bydd angen i ni weld y dystysgrif wreiddiol, derbyn eich caniatâd ysgrifenedig a sicrhau bod gwiriwr panel neu arweinydd eich eglwys wedi gwirio'ch hunaniaeth. Bydd y ffurflen hon yn eich arwain drwy'r broses.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu ewch i  Canllaw gwasanaeth diweddaru DBS

 

GWIRIADAU COFNOD TROSEDDOL I BOBL SY'N DOD O DRAMOR

Bydd gwiriad DBS ond yn rhoi gwybodaeth am yr amser mae’r unigolion wedi bod yn y DU. Os oes gennych weithiwr/ gwirfoddolwr grŵpiau bregus sydd wedi byw dramor dylech ddilyn y gweithdrefnau a nodir isod i gael gwybodaeth tymor hir am eu hanes troseddol.

Sylwer: yn aml mae'n rhaid i'r unigolyn gael y wybodaeth hon cyn iddyn nhw adael y wlad flaenorol.

Canllawiau ar y broses ymgeisio ar gyfer gwiriadau cofnodion troseddol dramor 

COUNTRIES A-F
GWLEDYDD G-P

COUNRIES Q-Y

Edrychwch hefyd ar y tudalennau perthnasol canllawiau'r DBS ar gyfer Ymgeiswyr am reolau gwirio hunaniaeth a gofynion i weithwyr a gwirfoddolwyr nad ydynt yn yr AEE.

Nodyn - cyflogwyr sy'n gyfrifol am sicrhau bod gweithwyr a gwirfoddolwyr newydd a hawl i weithio yn y DU

CYHOEDDIADAU DBS (DOLENNI i WEFAN Y DBS):

cliciwch yma i weld canllawiau'r DBS ar gyfer ymgeiswyr gan gynnwys gwybodaeth os oes gennych gyfeiriad anarferol
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y rheolau ynghylch hidlo hen euogfarnau a rhybuddion

Cliciwch yma i weld Canllawiau gwirio hunaniaeth (ID) a'r rhestr gyfredol o ddogfennau y bydd eu hangen arnoch i wneud eich cais

cliciwch yma i weld y rhestr gyfredol o gyhoeddiadau a diweddariadau DBS

Cod Ymarfer DBS  cliciwch yma

Gwasanaeth Diweddaru'r DBS i ddarllen mwy am y gwasanaeth a all eich galluogi i ddefnyddio eich tystysgrif DBS eto cliciwch yma