Dewiswch eich iaith

 I weld yr holl sesiynau sydd ar gael nawr ac i bwcio eich lle am ddim dilynwch y ddolen i'n siop TicketSource 
 
Mae Panel Diogelu Cydenwadol yn hwyluso hyfforddiant am ddim ar gyfer y rhai sy'n gyfrifol am weithgareddau sy'n ymwneud a grwpiau bregus yn yr eglwys neu sydd yn gweithio yn uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion bregus o fewn eglwysi sy'n perthyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd CymruMae pob sesiwn hyfforddiant wedi selio ar ein polisiau a canllawiau cyfredol. Mae'r hyfforddiant yn helpu  gweithwyr a gwirfoddolwyr bod yn gyfarwydd gyda'u polisïau a gweithdrefnau diogelu ac yn gwybod sut i ymateb os ydynt yn poeni am unigolyn neu sefyllfa.
Mae hyfforddiant diogelu yn hanfodol i bawb sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda phlant, ieuenctid, oedolion bregus. Fel arfer mae'n angenrheidiol i fodloni gofynion y Comisiwn Elusennau a’ch polisi yswiriant. 
 

Rydym yn cynnig 3 math wahanol o hyfforddiant diogelu: sgroliwch i lawr am fanylion ac i archebu eich lle

  1. HYFFORDDIANT LEFEL 1 ar gyfer gwirfoddolwyr (2 awr)
  2. HYFFORDDIANT LEFEL 2 ar gyfer gweinidogion, arweinwyr a gweithwyr (6awr)
  3. HYFFORDDIANT CYDLYNYDD DIOGELU LLEOL - NEWYDD ar gyfer rai sy'n cyfrifol am faterion diogelu yn yr eglwys lleol 
HYFFORDDIANT DIOGELU AR GYFER YMDDIRIEDOLWYR:  Nid ydym yn cynnig hyfforddiant penodol ar gyfer ymddiriedolwyr elusen er y bydd cynnwys yn y seisynau uchod yn perthnasol isddynt. Mae swyddog diogelu y Panel yn argymell yr hyfforddiant diogelu canlynol i ymddiriedolwyr elusen.  Mae   thirtyone eight  yn cynnig sesiwn 2 awr ar-lein (£57) ac mae'r  NSPCC  yn rhedeg cwrs e-dysgu am  £25 
 
 

Gwerthusiad hyfforddiant diogelu  Cliciwch yma i ddarllen rai sylwadau gan bobl sy wedi mynychu ein sesiynau

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydych wedi mynychu sesiwn hyfforddiant y panel. Cwblhewch y jotform ar-leinyma i rannu eich barn chi. 

 

 I weld yr holl sesiynau sydd ar gael i bwcio ar hyn o bryd dilynwch y ddolen i'n siop TicketSource 
Noder:  mi fydd sesiynau gyda llai na 10 o fynychwyr yn cael ei ail drefnu. Ymddiheuraf am unrhyw anghyfleustra
 
 

 1. SESIYNAU LEVEL 1(Sesiwn 2 awr - addas ar gyfer gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr )

Mae gennym dîm bach o hyfforddwyr gwirfoddol o bob cwr o Gymru sy'n gallu darparu hyfforddiant diogelu lefel 1 sylfaenol i wirfoddolwyr mewn eglwysi lleol. Gall hyn fod wyneb yn wyneb neu'n rhithiol dros zoom. Maent wedi derbyn hyfforddiant ac adnoddau i sicrhau bod yr hyfforddiant yn gyson.  Gobeithiwn y bydd hyn yn cynyddu nifer y sesiynau hyfforddiant sydd ar gael.

NODIR Y SESIYNAU PRESENNOL ISOD Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.  OS HOFFECH DREFNU SESIWN.

Gallai hyn fod wyneb yn wyneb neu rithiol dros Zoom yn dibynnu ar argaeledd hyfforddwr lleol.

 2024

12/2/2024 Dydd Llun  7-9 pm ( Saesneg - dros Zoom )  12-2-24 Level 1 (English language) 
 18/3/24  Dydd Llun 2.30-4.30 ( Saesneg dros ZOOM)  archebwch eich lle yma  
Ebrill 2024:
25/4/2024 Nos Iau 7.30-9.30 ( Saesneg dros Zoom ) archebwch yma 
 
 29/4/24 Pnawn Llun  14.00-16.00 (Cymraeg dros Zoom)  archebu yma 
 
 30/4/24 Nos Fawrth 7-9pm  Cymraeg -  Capel y Drindod Pwllheli (dim opsiwn zoom)  archebu yma 
 
 
 2. SESIYNAU LEFEL 2  ar gyfer GWEINIDOGION 2024 ( sesiwn diwrnod 9.30-3.30)

Noder: mi fydd sesiynau gyda llai na 10 o fynychwyr yn cael ei ail drefnu. Ymddiheuraf am unrhyw anghyfleustra

Mae'r sesiynau hyfforddiant diogelu grwpiau bregus, lefel 2 ar gyfer gweinidogion a staff. Mae‘n orfodol i bob gweinidog o'r tri enwad a dylid ei hailadrodd o leiaf bob 4 blynedd. Maent i gyd yn rhithiol dros ZOOM.

Archebwch eich lle drwy dilyn y dolenni wrth ymyl y sesiwn. 

Gweler ein holl sesiynau hyfforddiant yma  Interdenominational Safeguarding Panel Diogelu Cydenwadol event tickets from TicketSource. - ( gweinidogion angen bwcio lefel 2) 

 2024 

Dydd Mercher 20fed o Fawrth 2024  Saesneg . 9.30-3.45  archebwch eich lle yma

Dydd Iau 11eg o Ebrill  2024 Cymraeg 9.30-3.45 archebwch yma 

 

Dydd Mawrth 24ain o Fedi 2024 Saesneg 9.30- 3.45   archebwch yma 

 

3. SESIYNAU CYDLYNYDD DIOGELU LLEOL  newydd yn 2024

Bydd y sesiwn 2.5 awr hon yn canolbwyntio ar rôl cydlynydd diogelu a'r elfennau ymarferol y dylai’r eglwys leol rhoi ar waith i sicrhau ei bod nhw’n diogelu grwpiau bregus yn effeithiol. Bydd y sesiwn yn cynnwys polisi, recriwtio mwy diogel a DBS a chadw cofnodion.  Ni fydd ffocws ar arwyddion a symptomau o gam-drin ac esgeulustod.  Mae hyn yn cael ei drafod yn fanylach yn y sesiynau hyfforddi lefel 1 a 2.

28/2/2024  DyddMercher 10.00-12.30 ( English Language ZOOM session ) archebwch eich lle yma 

29/2/24 Dydd Iau 9.30 y.b tan 12.00   Sesiwn Cymraeg ZOOM archebwch yma 

20/5/24 Nos Lun  6.30-9.30 pm  (Saesneg ZOOM) archebu yma  

3/6/24 Dydd LLun  14.00-16.30 (Cymraeg ZOOM) archebu yma 

 

Gadewch i ni wybod os hoffech mynychu cwrs cydlynydd diogelu trwy anfon ebost at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. a nodi os well gennych cwrs gyda nos neu yn ystod y dydd.